ESOL
Magwch hyder yn y Saesneg
Ydych chi’n awyddus i wella eich Saesneg ar gyfer gweithio, astudio, neu ar gyfer eich bywyd dydd i ddydd? Mae ein Cyrsiau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) yn Coleg Gwent wedi’u llunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu.
Rydym yn cynnig ystod o ddosbarthiadau ESOL sy’n addas i bob dysgwr, gydag opsiynau hyblyg llawn amser a rhan amser, a thiwtoriaid profiadol fydd yn eich cefnogi bob cam o’r daith.
Dysgwch mewn amgylchedd cefnogol
Rydym yn cynnig cefnogaeth wedi’i theilwra drwy’r Hwb Reach, gan eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir a chychwyn arni yn ddidrafferth.
Byddwch yn astudio mewn ystafell ddosbarth groesawgar lle byddwch yn magu hyder, ac yn cael eich arwain gan diwtoriaid cyfeillgar a chymwys sy’n deall eich taith ddysgu. P’un a ydych yn canolbwyntio ar sgwrsio, darllen, neu ysgrifennu, rydym yma i’ch helpu i lwyddo.
Os ydych yn awyddus i wella’ch Saesneg yn gyflym, byddai cwrs llawn amser yn wych ar eich cyfer. Byddwch yn datblygu’ch sgiliau gwrando, siarad, darllen, ac ysgrifennu tra’n magu hyder mewn mathemateg a chyflogadwyedd.
- Yn cychwyn ym mis Medi
- Astudiwch am bedwar diwrnod yr wythnos
- Cewch eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau a gwaith portffolio
Angen cwrs sy’n gweddu i’ch gwaith neu fywyd teuluol? Mae ein hopsiynau rhan amser yn hyblyg a gyda ffocws, gan ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyflymder sy’n gweithio i chi.
- Dewiswch o blith cyrsiau siarad a gwrando neu gyrsiau sy’n canolbwyntio ar ysgrifennu
- Opsiynau astudio a dyddiadau cychwyn hyblyg
- Cewch eich asesu drwy arholiadau a gwaith cwrs
Oriel
Sut i Wneud Cais
Y cam cyntaf yw siarad gyda’n tîm Hwb Reach. Byddant yn asesu lefel eich Saesneg, eich helpu i ddod o hyd i’r cwrs cywir, ac yn eich arwain drwy’r broses ymrestru.
Barod i ddechrau arni? Cysylltwch â Hwb Reach:
Ffôn: 07805 272916
E-bost: reach@coleggwent.ac.uk
CyfeiriadHwb Reach, 23 Stryd y Deml, Pilgwenlli, Casnewydd, NP20 2GJ