Adroddiad Archwiliad Estyn 2026
Nodi cryfderau, cefnogi dysgwyr a gyrru gwelliant ar draws Coleg Gwent
Ym mis Chwefror 2026, fe gynhaliodd Estyn arolygiad o ddarpariaeth addysg bellach Coleg Gwent.
Mae'r adroddiad yn nodi cryfderau ar draws y coleg, gan gynnwys lles dysgwyr, amgylcheddau dysgu cefnogol, arferion cynhwysol a phroffesiynoldeb staff. Mae hefyd yn nodi meysydd y gellir eu gwella ymhellach a fydd yn llywio Cynllun Gwella Ansawdd y coleg.
Cryfderau allweddol a nodwyd gan Estyn
Lles a chefnogaeth i ddysgwyr
“Mae bron pob dysgwr yn teimlo’n ddiogel ac yn saff ar y campws, ac maent yn gwybod ble fynd neu pwy siarad â nhw os oes ganddynt broblem.” - Adroddiad Archwiliad Estyn 2026
-
Mae dysgwyr yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi
-
Perthnasoedd cryf rhwng staff a dysgwyr
-
Profiad dysgwr cynhwysol ar bob campws
-
Ystod eang o wasanaethau cymorth a chyfleoedd cyfoethogi
Dysgu ac addysgu
"Mae bron pob athro yn creu amgylcheddau dysgu tawel a phwrpasol sy’n ffafriol i ddysg.” - Adroddiad Archwiliad Estyn 2026
-
Amgylcheddau dysgu pwrpasol
-
Gwybodaeth bwnc gref gan staff
-
Addysgu ymarferol a galwedigaethol effeithiol
-
Datblygiad da o ran sgiliau llythrennedd a rhifedd
Meysydd a amlygwyd
-
Llythrennedd a rhifedd o fewn rhaglenni lefel 3
-
Clwb Byddar Coleg Gwent
-
Dysgu proffesiynol a datblygiad staff
Meysydd i'w gwella
Argymhellion
Fe gynhigiodd Estyn bum maes i gefnogi’r coleg yn ystod cam nesaf ei welliant:
1. Gwella deilliannau dysgwyr
2. Ymestyn a herio yn fwy wrth addysgu
3. Cefnogi dysgwyr ag ADY yn gyson
4. Gwella hunanwerthuso a chynllunio gwelliannau
5. Cyflwyno mwy o gyfleoedd i ddatblygu iaith a diwylliant Cymru
Mae cynllun gweithredu manwl wrthi'n cael ei ddatblygu mewn ymateb i'r argymhellion hyn, gan adeiladu ar y gwelliannau sydd eisoes ar droed ledled Coleg Gwent.