En

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â HiVE ar gyfer seremoni torri’r dywarchen


9 Hydref 2023

Bydd HiVE yn darparu hyfforddiant ac addysg o’r math diweddaraf un ar gyfer pobl ifanc

Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, â chyn ffatri Monwel Hankinson, Glyn Ebwy, i weld cyfleuster Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE) y dyfodol. 

Aeth Mr. Davies, ynghyd â’r contractwyr, ISG, y Cynghorydd John Morgan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Alun Davies AS for Blaenau Gwent ac Is-bennaeth Coleg Gwent, Nikki Gamlin, ar daith o’r safle lle mae’r gwaith o adeiladu cyfleuster addysgu technoleg uchel newydd, sy’n werth nifer o filiynau o bunnoedd, yn cael ei gyflawni. 

Bydd y cyfleuster newydd, sy’n 21,808 o droedfeddi sgwâr, yn cynnig hyfforddiant ac addysg dechnoleg uchel i bobl ifanc a busnesau ym maes roboteg ac mewn meysydd uwch-gynhyrchu megis modurol, awyrofod a thechnoleg gwybodaeth. 

Mewn partneriaeth â Coleg Gwent a phartneriaid diwydiant, derbyniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent dros £9 miliwn gan raglen Y Cymoedd Thechnoleg Llywodraeth Cymru a £3.9 miliwn gan Llywodraeth y DU i ailddefnyddio hen adeilad y ffatri, ac i hyrwyddo adfywio o fewn y gymuned leol gan gefnogi nodau’r Fenter Codi’r Gwastad. 

Clywodd yr Ysgrifennydd Gwladol am swyddogaeth HiVE, sy’n darparu ardaloedd addysgu ar gyfer hyd at 600 o fyfyrwyr, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth, ardaloedd astudio a gweithdai.  

Wedi’i leoli yn agos i ganol tref Glyn Ebwy a Pharth Dysgu Blaenau Gwent Coleg Gwent, bydd y cyfleuster ar gael i drigolion ledled Cymru yn ogystal â myfyrwyr yn Coleg Gwent sy’n astudio ar gyrsiau sy’n seiliedig ar beirianneg, gan helpu i hwyluso a chynyddu nifer yr ymwelwyr ar draws canol y dref gan gefnogi busnesau manwerthu lleol. 

Yn olaf, dysgodd Mr. Davies y bydd yr ardal yn cynnwys roboteg a chyfarpar gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf, gan gynnwys peirianwaith CNC, argraffu 3D metel, realiti estynedig, CAD/CAM, realiti rhithwir, gyrru awtonomaidd, dronau a thechnoleg cerbydau modurol. 

Bwriedir croesawu myfyrwyr, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u cofrestru ar gyrsiau peirianneg yn Coleg Gwent, o’r hydref 2024. 

Dywedodd Nicola Gamlin, Is-bennaeth Coleg Gwent: 

“Roedd croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i safle ein prosiect HiVE yn bleser. Wrth i’r galw am wybodaeth a sgiliau STEM barhau i gynyddu yn yr economi leol, nod Coleg Gwent yw addysgu gweithwyr y dyfodol mewn cyfleuster arbenigol, ymhlith technoleg arloesol sy’n adlewyrchu ymarferion diwydiant. Ein huchelgais yw rhoi’r arfau angenrheidiol i ddysgwyr er mwyn bodloni gofynion y gweithle yn y dyfodol.” 

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: 

“Roeddwn wrth fy modd yn ymweld â safle HiVE a chwrdd â rhai o’r bobl sy’n gweithio mor galed i adeiladu’r cyfleuster hwn. Mae gweld cyllid gan Lywodraeth y DU a’n partneriaid yn cael ei fuddsoddi mewn darparu cyfleuster mor wych i hyfforddi pobl ifanc a’u galluogi i ennill gwaith sy’n gofyn am sgiliau ac sy’n talu’n dda yn rhagorol. 

“Mae’r prosiect hwn wrth galon ein huchelgais ar gyfer Ffyniant Bro yng Nghymru gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol a lledu ffyniant.” 

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: 

“Rwy’n siŵr y bydd y prosiect cyffrous hwn yn gatalydd i greu swyddi sgiliau uchel lleol a thwf economaidd hirdymor ar gyfer yr ardal’. Roedd yn wych croesawu ein gwesteion heddiw a gweld y cynnydd sydd yn cael ei wneud yn barod i ddatblygu’r cyfleuster addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf yma ym Mlaenau Gwent.”  

Darllenwch fwy am ein datblygiad adeiladu HiVE yma.