En

Coleg Gwent yn cyflwyno Pennaeth newydd


13 Mawrth 2024

Mae Bwrdd Llywodraethwyr Coleg Gwent wedi cyhoeddi ei fod wedi penodi Nicola Gamlin fel pennaeth newydd ar un o’r colegau addysg bellach yng Nghymru.

Bydd Nicola yn dechrau ei swydd ym mis Medi 2024, gan olynu’r pennaeth presennol, Mr Guy Lacey.

Mae Nicola wedi gwasanaethu fel Is-bennaeth yn Coleg Gwent ers 16 o flynyddoedd gan arwain ar ddatblygu cwricwlwm eang ac ansawdd darpariaeth. Gan feddu ar wledd o brofiad a hanes ym maes arweinyddiaeth addysgol, mae Nicola yn ymroddedig i adeiladu ar lwyddiant y coleg.

Yn ogystal ag 21 o flynyddoedd o brofiad uwch-arweinyddiaeth, mae Nicola wedi gweithio ym maes addysg bellach ers 32 o flynyddoedd mewn rolau gan gynnwys athrawes, arweinydd cwrs a phennaeth ysgol. Mae Nicola wedi addysgu pynciau cyfrifiadureg, TG, mathemateg a busnes ar amrywiaeth o lefelau o Lefel 1 i Safon Uwch, TGAU, addysg uwch a chyrsiau proffesiynol. O ganlyniad i’w phrofiad helaeth, mae ganddi ddealltwriaeth dda o ran sut mae rhannau gwahanol o’r coleg yn gweithredu gan gynnig gwybodaeth sylweddol o’r sector.

Mae Nicola yn meddu ar radd Meistr mewn Addysg, mae’n athrawes gymwysedig ac yn Arolygydd Cymheiriaid Estyn hyfforddedig.

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Nicola: “Rwyf wrth fy modd i fod yn cymryd y rôl hon. Ni allwn wadu fod heriau o’n blaenau ar gyfer y sector addysg bellach ond mae’r coleg mewn sefyllfa gryf i ymateb i’r rhain a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a ddaw trwy newid. Fel y Pennaeth newydd, byddaf yn tynnu ar fy mhrofiad a’m gwybodaeth o’r coleg i ddarparu sefydlogrwydd a’n hannog ni i adeiladu ar ein cryfderau i sefydlu coleg neilltuol sy’n ffynnu mewn ffordd gynaliadwy yn yr hirdymor.

“Fy ngweledigaeth yw adeiladu ar waith da Guy trwy gryfhau ein perthnasoedd gyda’n partneriaid ac adeiladu ar y gwaith cymunedol rydym eisoes yn ei gyflawni. Rwyf wedi ymrwymo i yrru ein cenhadaeth ‘Newid Bywydau Trwy Ddysgu’ a phwysleisio’r rôl bwysig sydd gan bob aelod staff o ran cyflawni hyn. Trwy gydweithio, rwy’n anelu at ddarparu profiad dysgu eithriadol i’n myfyrwyr.”

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, Mark Langshaw MBE, am y penodiad: “Fel Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr, rwy’n gyffrous i gyhoeddi penodi ein Pennaeth newydd, Nicola Gamlin. Mae Nicola yn ymgorffori ymrwymiad Coleg Gwent i ragoriaeth a chynwysoldeb. Mae ganddi wledd o brofiad ac angerdd am rymuso dysgwyr. Fel Bwrdd y Llywodraethwyr, rydym yn awyddus i brofi’r bennod nesaf o dwf, arloesedd a llwyddiant ar gyfer y coleg wrth i ni weithio gyda Nicola i barhau i newid bywydau trwy ddysgu.”

Wrth i Coleg Gwent newid i’w arweinyddiaeth newydd, bydd y sefydliad yn parhau i adeiladu ar ei sylfaen gadarn a’i brofiad y myfyriwr o safon.