O Lyn Ebwy i Oasis – Marcus Russell yn ysbrydoli dysgwyr sy’n astudio cerddoriaeth ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent
Mae Marcus Russell yn ysbrydoli dysgwyr Blaenau Gwent gyda mewnwelediadau o’i daith o Gwm Ebwy i reoli Oasis, gan gynnig cyngor gonest i gerddorion y dyfodol
9 Ebrill 2026
Cafodd myfyrwyr ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent gipolwg unigryw ar y diwydiant cerddoriaeth wrth i Marcus Russell, rheolwr hir oes Oasis, ddychwelyd i’w wreiddiau i siarad â darpar gerddorion.
Gan dyfu i fyny yng Nglyn Ebwy, dangosodd Marcus arwyddion cyntaf o’i yrfa yn y dyfodol pan sefydlodd glwb cerddoriaeth lleol ar ôl sylwi bod y rhan fwyaf o’r bandiau mawr yn hepgor yr ardal. Roedd yn benderfynol o newid hynny a llwyddodd i berswadio’r cyngor lleol i ariannu’r lleoliad a chaniatáu iddo ei redeg – gan ei droi’n llwyddiant ysgubol a phob tocyn wedi’i werthu bob nos Wener.
Cyn camu i’r diwydiant cerdd, gweithiodd Marcus yn lleol yn y gwaith dur ger Parc yr Ŵyl a dod yn athro ar ôl hynny. Pan oedd yn ei 30au, camodd i rôl ym maes rheolaeth artistiaid gan weithio gyda’r band, Latin Quarter. Gan sylweddoli ei angerdd am y rôl, gwnaeth y penderfyniad dewr o adael maes addysgu a dilyn cerddoriaeth yn amser llawn.
Ers rheoli Oasis ers eu dyddiau cynnar ym 1993, mae Marcus wedi symud ymlaen i sefydlu ei gwmni rheolaeth a recordio ei hun gan weithio gydag artistiaid mawr gan gynnwys Stereophonics a Johnny Marr o ‘The Smiths’.

Yn ystod y sesiwn, gofynnodd dysgwyr ystod eang o gwestiynau – o’r hyn a ysbrydolodd ei yrfa i sut mae’r diwydiant wedi esblygu, sut mae artistiaid yn cael sylw heddiw, a’r camgymeriadau mwyaf cyffredin sy’n cael eu gwneud gan reolwyr a pherfformwyr newydd. Hefyd, myfyriodd Marcus ar fomentau allweddol yn ei yrfa, gan gynnwys gweithio gyda Johnny Marr, a disgrifiodd hyn fel un o’i gyflawniadau gorau.
Gan bwysleisio cymaint y mae’r diwydiant wedi newid, rhannodd Marcus, pan ddechreuodd gyntaf, roedd tua 60 i 100 o ganeuon newydd yn cael eu cyhoeddi bob wythnos – o’i gymharu ag oddeutu 120,000 o ganeuon yn cael lawrlwytho bob dydd nawr!
Rhoddodd y sgwrs gyfle gonest ac agoriad llygaid i weld realiti y diwydiant cerddoriaeth, gan wneud i fyfyrwyr deimlo eu bod wedi’u hysbrydoli a’u paratoi ar gyfer dilyn eu gyrfaoedd creadigol eu hunain.
Dywedodd Dan Richards, Darlithydd, “Mae wedi bod yn gyfle gwych i’n dysgwyr dreulio amser yn siarad â Marcus am ei daith yn y diwydiant cerddoriaeth a chael gwybodaeth law gyntaf ar sut mae’r diwydiant wedi datblygu dros amser. Roedd Marcus yn wych a rhoddodd wybodaeth fanwl i fyfyrwyr am yr hyn i’w wneud a’r hyn i beidio â’i wneud wrth ffurfio gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth. Atebodd gwestiynau yn drylwyr gan roi cyngor clir a chipolwg ar sut y gall ein dysgwyr wella eu sgiliau fel cerddorion y dyfodol a gwneud bywoliaeth yn y diwydiant cerddoriaeth. Roedd y dosbarth meistr yn wych, mwynheais yn fawr ac enillais wybodaeth o ganlyniad i wrando ar daith Marcus. Mae hwn yn gyswllt yr hoffwn ei gadw ar gyfer myfyrwyr yn y dyfodol sy’n anelu at astudio cerddoriaeth ym myd addysg.
Dywedodd Ricky Edwards, Dysgwr, “Mwynheais y sgwrs a gafodd gyda ni a rhoddodd gyngor ardderchog ar y diwydiant cerddoriaeth a’i brofiad ynddo. Hefyd, rhoddodd gipolwg ar sut bobl oedd rhai o’r bobl yr oedd wedi gweithio gyda nhw, gan gynnwys Johnny Marr o The Smiths, gan ddweud ei fod yn ddyn hyfryd ac yn gwrando ar bob math o gerddoriaeth. Un o’r prif bwyntiau oedd ei fod yn dod o Lyn Ebwy a chafodd gyfle i fod yn rheolwr ar fandiau megis Oasis. Mae hyn yn rhoi gobaith i mi fod mwy ar gael i mi ac i bobl sy’n debyg i mi y tu hwnt i’r cymoedd hyn yng Nghymru.”
Barod i ddilyn ôl troed arwyr y diwydiant? Gwnewch gais nawr am gyrsiau Cerddoriaeth yn Coleg Gwent a dechreuwch adeiladu eich dyfodol yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.