Amseroedd Cau Dros Y Nadolig

Mae'r coleg bellach ar gau tan ddydd Llun 5 Ionawr. Os ydych wedi gwneud ymholiad am gwrs neu wedi gwneud cais i ymuno â ni ym mis Ionawr, byddwn yn anelu at ymateb o fewn 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i ni ail-agor.

Dymunwn Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.

Ardal Wybodaeth Casnewydd Datblygiadau Ystadau

Artist impression - NKQ

Mae Campws Dinas Casnewydd, sydd wedi’i leoli ar heol Nash, angen buddsoddiad sylweddol er mwyn addysgu gweithlu’r dyfodol i’r safon uchaf a darparu cyfleusterau addysgu a dysgu rhagorol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd wedi cyhoeddi cynnig adfywio i symud Canolfan Casnewydd i safle canolfan hamdden newydd ar Lan yr Afon, gyda safle presennol Canolfan Casnewydd yn cael ei ddatblygu’n gampws newydd i Goleg Gwent ac yn rhan o Ardal Wybodaeth Casnewydd.

Mae hyn yn rhoi cyfle i ni greu cyfleuster newydd sbon, modern ac addas i’r diben mewn lleoliad sy’n haws i’n dysgwyr a’n staff gyrraedd iddo. Bydd y campws modern gwerth £90m yn symud darpariaeth ystod eang o gyrsiau addysg bellach o Heol Nash, gan ddod â thua 2,000 o fyfyrwyr a staff i ganol y ddinas. Bydd yr amgylchedd dysgu gwell hwn yn agos at gampws Prifysgol De Cymru – darpariaeth addysg uwch bresennol y ddinas – ac yn ffurfio Ardal Wybodaeth Casnewydd.

Bydd y cyfleuster addysg newydd sbon yng nghanol y ddinas yn cynnig cyfleoedd dysgu mwy hygyrch er mwyn gwella canlyniadau addysgol ac adnoddau cymunedol yr ardal ac, ar yr un pryd, yn rhoi hwb i’r economi leol a chynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas.

Gwasanaethau Myfyrwyr

  • Llyfrgell a chanolfan astudio
  • Ardaloedd gweithio'n hyblyg
  • Ystafelloedd distaw ac ardaloedd ymlacio
  • Mannau cymdeithasol, loceri i fyfyrwyr a wi-fi am ddim
  • Ystafell aml-ffydd
  • Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr
  • Cymorth TG ar y safle
  • Cyfleusterau ADY arbenigol
  • Mannau addysgu modern
  • Labordai gwyddoniaeth a thechnoleg
  • Cyfleusterau gwallt, harddwch ac arlwyo
  • Ystafelloedd staff a lles
  • Lle i ystod eang o gyrsiau gael gweithdy

Diweddariadau

Diweddariadau

Cynigion a chynlluniau terfynol

Mae'r cynigion a'r cynlluniau terfynol bellach yn cael eu llunio cyn i'r cais cynllunio llawn gael ei gyflwyno.

Cytundeb y Cabinet

Cytunodd y Cabinet i barhau â'r cynlluniau i symud y ganolfan hamdden a throi safle presennol Canolfan Casnewydd yn gampws i Goleg Gwent.

Cymeradwyaeth y cyhoedd

Cafwyd cymeradwyaeth eang i'r cynlluniau yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Cyfnodau cynnar y prosiect

Mae prosiect Ardal Wybodaeth Casnewydd yng nghyfnod cynnar y gwaith o fodelu gofod, llunio’r cytundeb strategol a thrafod y materion cyfreithiol.

Cyhoeddi adroddiad y Cabinet

Cyhoeddwyd adroddiad gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 ar gyfer ailddatblygu safle presennol Canolfan Casnewydd er mwyn datblygu cyfleuster addysg bellach newydd sbon i Goleg Gwent o dan Raglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif.

Ymholiadau'r wasg

news@coleggwent.ac.uk