Campws Crosskeys Datblygiadau Ystadau

Crosskeys development

Trawsnewid Campws Crosskeys

Byddwn ni’n dechrau ar y rhaglen fuddsoddiad fwyaf ers ei sefydliad yn y 1960au. Ein gweledigaeth yw campws Crosskeys sy’n fwy o faint, yn fwy mentrus ac yn well, ac sy’n diwallu anghenion cwricwlwm amrywiol. Mae’r isadeiledd presennol yn cyflwyno problemau sylweddol o ran cynnal a chadw ac mae angen buddsoddiad sylweddol ar rai adeiladau er mwyn moderneiddio’r adeiladau a bodloni ein targedau sero net.

Mae’r gwaith trawsnewid yn dechrau trwy adleoli’r brif dderbynfa i Floc X a fydd yn dechrau’r gwaith o baratoi ar gyfer datblygiad aml-gyfnod. Mae’r cyfnod cyntaf yn cynnwys adeiladu adeiladau newydd gyferbyn â Bloc X ac yna’n dymchwel Bloc B a Bloc F. Ar ôl hynny, bydd Bloc K a Bloc Z yn cael eu disodli a bydd cyfnodau’r dyfodol yn canolbwyntio ar adleoli’r gampfa, gweithdai peirianneg a gweithdai cerbydau modur i flaen y campws.

Mae ein gweledigaeth yn ymestyn y tu hwnt i adnewyddu isadeiledd er mwyn croesawu cynaliadwyedd. Bydd pob adeilad newydd a phob adeilad sydd wedi’i adnewyddu yn sicrhau lefelau uchel o ran effeithlonrwydd ynni neu garbon isel gan alinio â thargedau carbon sero net Llywodraeth Cymru.

Rydym yn cydweithio i greu campws sy’n fodern, yn gynaliadwy ac yn ddeinamig er mwyn i ni allu parhau i gynnig profiad gwych i fyfyrwyr ac aelodau staff am genedlaethau i ddod. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y campws yn lle ysbrydoledig a chyfoethog i ddysgu a gweithio; campws cynaliadwy sy’n parhau i ateb anghenion y gymuned, yn cryfhau cysylltiadau â’n hysgolion partner ac yn hyrwyddo partneriaethau â busnesau lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni: crosskeys.development@coleggwent.ac.uk

Aerial impression of new Crosskeys campus

Diweddariadau

Diweddariadau

Paratoi ar gyfer Adeiladu

Mae Campws Crosskeys wedi’i baratoi ar gyfer gwaith adeiladu ym mis Chwefror 2026. campws at adeiladu. Dyma ddechrau taith gyffrous i greu cyfleusterau modern a chroesawgar sy'n cefnogi ein cwricwlwm amrywiol a'n nodau carbon sero net.

Cynllunio wedi'i gymeradwyo

Cais cynllunio ar gyfer uwchgynllun campws Crosskeys wedi’i gymeradwyo gan Gyngor Caerffili

Cam 1: Gwaith dymchwel yn dechrau

Bydd y gwaith dymchwel yn dechrau ym mis Chwefror 2025 drwy dynnu tai dwbl sydd drws nesaf i Floc X ar hyd Ffordd Rhisga.

Derbynfa

Fe symudodd y brif dderbynfa i Floc X yn Haf 2024. 

Y broses ymgynghori

Fe agorodd gyfres o ddigwyddiadau ymgynghori ym mis Mawrth 2024.

Ymholiadau'r wasg

news@coleggwent.ac.uk