Yn gryno
Bydd yr arholiad CompTIA+ yn ardystio fod yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i osod, ffurfweddu a rheoli caledwedd gweinyddion a systemau gweithredu (operating systems - OS) drwy roi rheolaethau diogelwch priodol ar waith, llwyddo i ddatrys problemau gweinyddion cyffredin, a dangos dealltwriaeth o gysyniadau allweddol sy’n ymwneud ag adfer wedi digwyddiad difrifol.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
... unrhyw un sydd am fireinio ei wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i osod, rheoli a datrys problemau gweinyddion mewn unrhyw amgylchedd.
Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 5 diwrnod
Mae pwyntiau dysgu allweddol y cwrs yn cynnwys:
-
Deall cysyniadau gweinyddu gweinyddion.
-
Deall rhithwiroli a chyfrifiadura cwmwl.
-
Deall cysyniadau diogelwch corfforol a rhwydweithiau.
-
Rheoli stocrestrau ac asedau corfforol.
-
Rheoli caledwedd gweinyddion.
-
Ffurfweddu rheolaeth storfeydd.
-
Gosod a ffurfweddu OS.
-
Datrys problemau OS a gosodiadau apiau a rhwydweithiau.
-
Cynnal a rheoli gweinyddion ar ôl eu gosod.
-
Rheoli diogelwch data.
-
Rheoli argaeledd gwasanaethau a data.
-
Dad-gomisiynu gweinyddion.
Dylai mynychwyr feddu ar sgiliau TG sylfaenol sy'n gyfwerth â 18-24 mis o brofiad. Argymhellir ardystiad CompTIA A+ neu wybodaeth gyfwerth yn gryf, ond nid yw hyn ofynnol.
Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol