Yn gryno
Cwrs a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad mewn cyfrifiadura cwmwl, rheoli seilwaith a rhithwiroli, yn enwedig y rheini sy'n gweithio ag amgylcheddau cwmwl hybrid.
Mae'n cwmpasu dylunio gwahanol fathau o bensaernïaeth rwydwaith ddiogel, gweithredu egwyddorion Dim Ymddiriedaeth, rheoli manylion adnabod a mynediad, monitro rhwydweithiau, perfformiad, awtomatiaeth a datrys problemau.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
... gweithwyr proffesiynol profedig sy'n meddu ar o leiaf 5 mlynedd o brofiad fel pensaer systemau, rhwydweithiau, rhwydweithiau cwmwl, isadeiledd neu fentrau.
... unrhyw un sy'n meddu ar dystysgrifau sylfaenol megis Network+ a Cloud+. Anelir at y rheini sy'n barod i weithio â rhwydweithiau hybrid cymhleth lefel menter.
Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 5 Diwrnod
Cynlluniwyd ardystiad CloudNetX CompTIA i ddarparu gweithwyr proffesiynol yn y maes TG â gwybodaeth sylfaenol a sgiliau ymarferol mewn cyfrifiadura cwmwl. Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu egwyddorion pensaernïaeth cwmwl, modelau gweithredu, fframweithiau diogelwch a ffurfweddiad rhwydweithiau, gan sicrhau bod dysgwyr yn ennill arbenigedd ymarferol mewn rheoli amgylcheddau cwmwl.
Byddwch yn meithrin sgiliau hanfodol mewn rheoli seilwaith y cwmwl, gan gynnwys graddadwyedd, rhithwiroli ac awtomeiddiad. Mae ffocws cryf ar arferion gorau o ran diogelwch yn sicrhau y gall gweithwyr proffesiynol ddiogelu systemau cwmwl rhag bygythiadau seiber. Yn ogystal, byddwch yn ennill dealltwriaeth o gydymffurfiaeth, llywodraethu a rheoli costau mewn ecosystemau cwmwl.
Ar ôl cwblhau ardystiad CloudNetX CompTIA, bydd gweithwyr proffesiynol yn barod i ddylunio, gweithredu a rheoli atebion ar y cwmwl sy'n cyd-fynd ag anghenion busnes, gan eu gwneud yn asedau gwerthfawr yn y diwydiant cyfrifiadura cwmwl sy'n esblygu'n gyflym.
O leiaf deg mlynedd o brofiad yn y maes TG a phum mlynedd o brofiad mewn rôl pensaer rhwydweithiau, gyda phrofiad mewn amgylchedd hybrid cwmwl. Profiad o Network+, Security+, and Cloud+ neu gyfwerth.
Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol