Yn gryno
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno astudio Gosodiadau Trydanol – Arolygu a Phrofi/Gwirio Cychwynnol.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth ac sy’n ennill yn llai na £34,303 y flwyddyn
...trydanwyr/goruchwylwyr cymwysedig sydd â phrofiad ym maes archwilio a phrofi ac ardystio gosodiadau trydanol. Mae’r cwrs hwn ar gyfer Archwilio a Phrofi yn unig.
Un arholiad aml-ddewis ar-lein a dau asesiad archwilio a phrofi ymarferol. Mae dysgu cyn dechrau ar y cwrs yn hanfodol. Mae’n rhaid eich bod chi’n meddu ar wybodaeth weithiol am BS7671 a Nodyn Canllaw 3. Mae hwn yn gwrs atodol gan ychwanegu at y cymhwyster Gosodiad Trydanol Lefel 3.
Gofynion y cwrs yw; yn ddelfrydol, Lefel 3 mewn Gosodiad Trydanol, fodd bynnag. Neu, efallai y caniateir cymhwyster Lefel 2 ar yr amod bod y myfyriwr wrthi’n gweithio yn y diwydiant Gosodiadau Trydanol ac yn chymryd rhan mewn gweithgarwch profi ac archwilio yn y gweithle.
Trafodir dyddiadau’r cwrs yn ystod y broses ymgeisio. Cynhelir y cwrs hwn trwy ein campws Parth Dysgu Blaenau Gwent. Bydd angen mynychu cyfweliad cyn i unrhyw un gael mynediad i’r cwrs.