• Rhan Amser

CompTIA Cloud+

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Mae CompTIA yn ffynhonnell wybodaeth annibynnol, niwtral o ran gwerthwyr, ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau technoleg, yn cynnwys seiberddiogelwch; addysg, hyfforddiant ac ardystio’r gweithlu technoleg byd-eang; technolegau newydd a datblygol; deddfwriaethau a pholisïau sy’n effeithio ar y diwydiant a data’r gweithlu, datblygiadau a thueddiadau.

CompTIA Cloud+ yw’r unig ardystiad TG seiliedig ar berfformiad sy’n edrych ar wasanaethau seilwaith cwmwl yng nghyd-destun systemau TG ehangach, ni waeth be fo’r platfform. Mae mudo i’r cwmwl yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio, optimeiddio a diogelu storfeydd data a chymwysiadau sy’n hollbwysig i’r genhadaeth. Mae CompTIA Cloud+ yn dilysu’r sgiliau technegol sy’n angenrheidiol i ddiogelu’r asedau gwerthfawr hyn.

CompTIA Cloud+ yw’r unig ardystiad cwmwl a gymeradwyir ar gyfer DoD 8570.01-M, ac mae’n cynnig opsiwn seilwaith ar gyfer unigolion sydd angen ardystiad mewn IAM Lefel I a rolau Dadansoddwr CSSP a Chymorth Seilwaith CSSP.

...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

… peirianwyr y cwmwl sydd angen arbenigedd ar draws amryfal gynhyrchion a systemau

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 5 diwrnod

Drwy gydol y cwrs byddwch yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • Saernïaeth a Dyluniad y Cwmwl – Dadansoddi gwahanol fodelau o’r cwmwl er mwyn llunio’r ateb gorau i ategu gofynion busnes.
  • Diogelwch y Cwmwl – Rheoli a chynnal gweinyddion, yn cynnwys ffurfweddiadau OS, rheoli mynediad a chreu fersiynau rhithwir.
  • Datblygu’r Cwmwl – Dadansoddi gofynion systemau er mwyn llwyddo i fudo gwaith i’r cwmwl.
  • Gweithrediadau a Chymorth – Cynnal ac optimeiddio amgylcheddau’r cwmwl, yn cynnwys gweithdrefnau awtomateiddio a threfnu, gweithrediadau wrth gefn a gweithrediadau adfer, a thasgau adfer ar ôl argyfwng.
  • Cywiro diffygion – Y gallu i gywiro diffygion, materion yn ymwneud ag awtomateiddio, cysylltedd a diogelwch sy’n berthnasol i weithredu’r cwmwl.

Dylai cynrychiolwyr feddu ar sgiliau gweinyddu systemau sy'n cynnwys 2-3 blynedd o brofiad. Argymhellir yn gryf ardystiad CompTIA Network+ a Server+, neu'r wybodaeth gyfwerth.

Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.

Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0139AA
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy