Yn gryno
Wedi’u dylunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i osodwyr osod pympiau gwres yn gywir. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i fodloni gofyniad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a gweithgorau diwydiant.
... unrhyw un 19 oed neu'n hŷn sy'n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
… y rhai sydd â'r nod o fagu'r wybodaeth ac arbenigedd i allu darparu cartrefu carbon sero net.
Mae’r cwrs hwn wedi’i rannu yn dair rhan sy’n gallu cael eu dilyn fel a ganlyn:
Technoleg Pwmp Gwres (2 ddiwrnod) a Ffynhonnell Aer (1 diwrnod) Cyfanswm = 3 diwrnod,
Technoleg Pwmp Gwres (2 ddiwrnod), Ffynhonnell Aer (1 diwrnod) a Ffynhonnell Daear (1 diwrnod) Cyfanswm = 4 diwrnod,
Mae’r llawlyfr hyfforddiant yn caniatáu i chi astudio ar eich cyflymder eich hun, i gadw’r amser a dreulir ar y cwrs hyfforddiant i leiafswm. Mae’n bwysig eich bod chi’n astudio cynnwys y llawlyfr cyn mynychu’r cwrs i sicrhau eich bod chi wedi eich paratoi’n gywir a gallwch chi gymryd rhan yn y trafodaethau yn ystod y cwrs.
Wedi’i gydnabod fel prawf o alluedd ar gyfer y Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu (MCS).
Dylai hyfforddeion feddu ar isafswm o
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Plymio neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiad Domestig) neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiad Diwydiannol a Masnachol) neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwasanaethau Technegol Olew neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gosodiad a Chynnal a Chadw Nwy neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- Osodwyr gwresogi sy’n meddu ar isafswm o 3 blynedd o brofiad yn gosod systemau gwres canolog gwlyb, wedi’u tystio gan naill ai ardystiad o gyrsiau gwneuthurwyr neu gofrestriad ar Gofrestr Diogelwch Nwy, cofrestriad OFTEC, cofrestriad MCS neu gofrestriad HETAS
AC os nad yw wedi’i gynnwys yn rhan o’r cymhwyster uchod
- Rheoliadau Dŵr / Is-ddeddfau Dŵr
Nid yw tystysgrifau technegol unigol / Cymwysterau Galwedigaethol (nad ydynt yn seiliedig ar allu) yn dderbyniol
Fel rhan o broses cyflwyno cais BPEC bydd angen i ymgeiswyr ddarparu ffotograff pasbort a holl gopïau gwreiddiol o dystysgrifau sy’n berthnasol i’ch cais ar ddiwrnod yr hyfforddiant.
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol