Yn gryno
Mae hwn yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn gosod a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol bach. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddatblygu o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ac fe'i cydnabyddir gan gyrff cofrestru'r Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS) fel cymhwyster derbyniol i ymuno ag un o'u cynlluniau priodol.
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
... peirianwyr mecanyddol a phlymwyr cymwys sydd eisiau ymestyn eu sgiliau i osod a chynnal a chadw systemau technoleg amgylcheddol.
Mae'r cymhwyster Lefel 3 hwn yn ddelfrydol os ydych yn blymwr neu beiriannydd profiadol sydd eisiau gosod a chynnal a chadw'r math hwn o dechnoleg amgylcheddol. Mae'n cynnwys 5 uned orfodol, sy'n cynnwys elfennau ymarferol a damcaniaethol. Rhaid cyflawni'r HOLL unedau er mwyn cyflawni’r cymhwyster cyffredinol.
- Gwybod y gofynion ar gyfer gosod, comisiynu a throsglwyddo systemau dwr poeth thermol solar
- Gosod, comisiynu a throsglwyddo systemau dwr poeth thermol solar ‘gweithredol’
- Gwybod y gofynion ar gyfer archwilio, trin a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol solar ‘gweithredol’
- Archwilio, trin a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol solar ‘gweithredol’
Mae asesiadau’n cynnwys cyfuniad o arholiadau damcaniaethol ac ymarferol.
Mae cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn profi bod dysgwyr yn gymwys i osod, comisiynu, datgomisiynu gwasanaeth a chynnal a chadw systemau dwr poeth thermol solar, ac felly, bydd yn ymestyn cyfleoedd gyrfa yn y maes technolegau newydd.
Dylai ymgeiswyr feddu ar o leiaf cymhwyster NVQ lefel 2/3 mewn plymwaith neu beirianneg gwresogi confensiynol
NEU dystiolaeth amlwg o feddu ar o leiaf 3 blynedd o brofiad perthnasol
Yn ogystal â hyn, dylai ymgeiswyr hefyd eisoes wedi cwblhau:
- Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig Wedi’u Hawyru a Heb Eu Hawyru
- Rheoliadau Dŵr/Is-ddeddfau Dŵr
https://www.coleggwent.ac.uk/course/LA0043/bpec-water-regulations-by-laws?uioid=504790
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.
Mae'r cymhwyster hwn yn gweithredu fel Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer plymwyr cymwys a pheirianwyr mecanyddol sy'n dymuno ehangu eu sgiliau. Mae'n darparu gwybodaeth fanwl am Wresogi Thermol Solar, a'r cymhwysedd i osod a chynnal a chadw yn amgylchedd y cartref.
Bydd dyddiadau cyrsiau yn cael eu trafod wrth wneud cais.
Cyflwynir y cwrs hwn yn ein Parth Dysgu Blaenau Gwent a champws Casnewydd yn seiliedig ar alw.
Mae'r cwrs fel arfer yn redeg dros 3 diwrnod.