Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn gymhwyster rheoli gwasanaethau TG lefel mynediad sy'n rhoi dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r derminoleg allweddol sy’n ymwneud ag ITIL®. Mae'r pynciau hyn yn cynnwys saith egwyddor arweiniol ITIL® 5, pedwar dimensiwn rheoli gwasanaethau a mwy.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
...cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa
... gall unrhyw un gofrestru a dysgu am dechnegau, terminoleg a phrosesau allweddol ITIL®.
Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 2 ddiwrnod
Mae'r cwrs yn cynnwys:
- Sut mae ITIL® yn datblygu ymhellach, ac yn cefnogi, Lean, Agile, DevOps ac arferion rheoli prosiectau a phrosesau eraill
- Saith egwyddor arweiniol ITIL® 5
- System gwerth gwasanaethau ITIL®
- Pedwar dimensiwn rheoli gwasanaeth
- Deall pwrpas a thermau allweddol pob un o 15 Arfer ITIL®, gan feddu ar ddealltwriaeth ddofn o saith
Bydd yna arholiad ar ITIL® 5 ar ddiwedd y cwrs.
Mae dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau TG neu brofiad gwaith mewn amgylchedd TG yn ddefnyddiol.
Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol
- ymroddiad o amser sydd ei angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur windows a gwe-gamera/meicroffon