Yn gryno
CompTIA Network+ teaches the core skills needed to build, manage, and troubleshoot modern wired and wireless networks.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
……unrhyw un 19 oed neu'n hŷn sy'n byw yng Nghymru ac yn gyflogedig. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn
...ydych chi am ennill sylfaen gadarn yn y maes rhwydweithio, gyda'r nod o fagu gyrfa ym meysydd isadeiledd a chymorth TG
...ydych chi'n newydd i rwydweithio ac yn chwilio am lwybr clir a strwythuredig i mewn i’r maes
…oes angen tystysgrif gydnabyddedig a niwtral yn ôl gwerthwyr er mwyn rhoi hwb i'ch sgiliau a hyder
...ydych chi eisoes yn gweithio ym maes TG ac am gryfhau eich dealltwriaeth o sut mae rhwydweithiau yn gweithredu
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfwerth â chyrsiau wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth, ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 5 Diwrnod
Mae pwyntiau dysgu allweddol y cwrs yn cynnwys:
- Gosod a ffurfweddu dyfeisiau rhwydweithiol cyffredin
- Deall sut mae data yn symud ar draws gwahanol fathau o rwydweithiau
- Datrys problemau yn ymwneud â chysylltedd a pherfformiad bob dydd
- Archwilio hanfodion diogelwch rhwydweithiau
- Defnyddio offer a thechnegau go iawn a ddefnyddir mewn rolau cymorth TG a seilwaith
Nid oes yna ofynion mynediad ffurfiol, ond bydd dealltwriaeth sylfaenol o gyfrifiaduron a diddordeb mewn TG neu rwydweithio yn eich helpu i gael y gorau o’ch cwrs.
Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn cofrestru ar gyfer eich cwrs PLA, byddwn yn trafod cynllun dysgu personol â chi i sicrhau eich bod wedi ystyried y llwybr addysg sydd mwyaf addas i chi.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
- dyheadau gyrfa
- neilltuo'r amser sydd ei angen i gwblhau'r cwrs