Yn gryno
Y cwrs lefel uwch hwn yw’r ail flwyddyn o raglen ddwy flynedd ac mae’n cynnwys y sgiliau technegol a’r wybodaeth uwch sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y diwydiant coluro ym meysydd ffilm, teledu a theatr.
... Oes gennych chi ddiddordeb proffesiynol mewn colur theatr neu ffilm
... Ydych yn greadigol
... Ydych chi’n weithgar ac yn ymroddedig
... Rydych chi’n meddu ar gymhwyster Lefel 4 ym maes arbenigol Coluro.
Mae artistiaid effeithiau colur arbennig yn gweithio gyda modelau byw neu berfformwyr i’w trawsnewid nhw’n gymeriadau neu greaduriaid (fel arfer at ddibenion sioe neu ddrama fel y disgrifir mewn sgriptiau ffilm a theledu). Mae’r gwaith hwn yn cynnwys rhoi colur a/neu brostheteg ymlaen i gyflawni’r effaith theatrig ddymunol.
Mae’r cwrs hwn yn berffaith i chi os oes gennych chi ddiddordeb ym maes coluro ffilmiau neu deledu, os ydych chi’n bwriadu dilyn gyrfa yn y diwydiant ac os ydych chi wedi ennill cynhwyster Lefel 4 mewn Coluro Theatryddol neu os oes gennych chi brofiad cyfatebol yn y diwydiant.
Byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa lwyddiannus mewn colur theatrig a'r cyfryngau a byddwch yn dysgu am weithio yn y diwydiant. Yn ystod eich amser yn y coleg, bydd cyfleoedd i fynychu profiad gwaith a chymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae’r cwrs Lefel 5 hwn sy’n para am un flwyddyn, wedi’i ddylunio ar gyfer y rhai â diddordeb proffesiynol ym maes coluro’r theatr neu ffilmiau. Mae’n cynnwys gwybodaeth arbenigol ynghylch datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth uwch sy’n angenrheidiol i weithio ym myd ffilmiau, teledu a’r theatr.
Byddwch yn astudio unedau sy'n cynnwys:
- Prosiect Ymchwil Creadigol
- Gweithio yn y Diwydiant Celfyddydau Perfformio
- Creu Mawddau
- Yr Artist Colur Llawrydd - Creu Wigiau
- Rôl Rheoli
- Dylunio Gwallt a Chriw
- FX Arbennig Uwch
Asesir sgiliau ymarferol trwy gyfres o aseiniadau ymarferol wedi’u hamseru wedi’u gosod o friff sy’n gysylltiedig â’r diwydiant, a gefnogir gyda chyfnodolion helaeth o log ymchwil a datblygu. Asesir unedau theori trwy astudiaethau achos, cyfnodolion ymchwil a chyflwyniadau.
Cynhelir dosbarthiadau meistr a hwylusir gan arbenigwyr yn y diwydiant drwy gydol y rhaglen.
I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar 4 cymhwyster TGAU, graddau A*i C, gan gynnwys Saesneg a Chelf, cymhwyster Lefel 4/HNC mewn Coluro Arbenigol Theatryddol a’r Cyfryngau.
Bydd disgwyl i’r dysgwyr fod yn greadigol, ymroddgar ac yn ysbrydoledig
Ar lwyddo i gwblhau’r cwrs hwn, byddwch chi’n symud ymlaen i gwrs gradd BA (Anrh.) mewn Coluro’r Cyfryngau mewn prifysgol briodol.
I gael mynediad at y cwrs hwn, bydd angen i chi feddu ar 4 cymhwyster TGAU, graddau A*i C, gan gynnwys Saesneg a Chelf, cymhwyster Lefel 4/HNC mewn Coluro Arbenigol Theatryddol a’r Cyfryngau.
Bydd disgwyl i’r dysgwyr fod yn greadigol, ymroddgar ac yn ysbrydoledig
Bydd disgwyl i chi i brynu gwisg arbennig a phecyn wig a fydd yn costio tua £250
Efallai y bydd costau eraill sy'n gysylltiedig â theithio a llety ar gyfer hyfforddiant Meistr.
Cod gwisg:
- Gwisg arbennig
- Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb