Yn gryno
Bydd y cwrs Tystysgrif Cenedlaethol Uwch (HNC) hwn yn rhoi cyfle i chi astudio cymhwyster sy'n gydnabyddedig o fewn y diwydiant Peirianneg Sifil, ac sy'n cael ei gydnabod yn broffesiynol gan ICE, ISE, CIAT, RICE, CIOB, CIBSE a CIPHE.
... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn Peirianneg Sifil
... Rydych eisiau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
...Rydych yn gweithio'n dda mewn astudiaethau ymarferol a damcaniaethol
Cyflwynir y cymhwyster gan Pearson Edexcel, ac mae'n cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan weithwyr arbenigol y diwydiant yng Nghampws Casnewydd. Mae'r modiwlau rydym yn eu darparu yn cynnwys datblygiad cynaliadwy a darparu'r technegau a phrosesau diweddaraf mewn modiwlau graffig sy'n seiliedig ar brosiect.
Ymhlith y modiwlau mae:
- Prosiect Unigol
 - Technoleg Adeiladu
 - Gwyddoniaeth a defnyddiau
 - Rheolaeth ac Ymarfer Adeiladu
 - Dadansoddiad a dyluniad strwythurol
 - Hydroleg
 - Hydroleg Mathemateg mewn adeiladu
 
Mae'r sesiynau yn gymysgedd o ddarlithoedd, stiwdios dylunio ac arbrofi ymarferol, yn seiliedig ar sefyllfaoedd prosiect go iawn a phroblemau efelychol.
Rydym yn cynnig yr HNC dros gyfnod o 1 -2 flynedd, gydag 8 modiwl i'w cwblhau. Bydd myfyrwyr Rhan Amser yn cael eu rhyddhau ar ddydd Mawrth, a myfyrwyr Llawn Amser yn cael eu rhyddhau ar ddydd Mawrth a dydd Iau.
Gellir darparu ar gyfer sefyllfaoedd personol.
Wedi cychwyn y cwrs, rydym yn disgwyl ymrwymiad a diddordeb llawn ar gyfer eich astudiaethau, a byddwch angen astudio yn eich amser eich hun i gefnogi eich gwaith yn y coleg.
Os ydych yn cwblhau eich HNC yn llwyddiannus, gallwch gwblhau'r HND mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig ar gampws Casnewydd.
Mae nifer o'r unigolion sy'n gweithio mewn swyddi rheoli o fewn cwmnïau adeiladu a pheirianneg sifil wedi cymhwyso hyd at lefel HNC. Drwy gwblhau HNC, ac o bosib, HND, byddwch yn cael cyfleoedd i ddilyn gyrfaoedd mewn rheoli, yn ogystal ag astudio a gwneud cynnydd yn y dyfodol.
Y llwybr naturiol i'w dilyn ar ôl cwblhau'r HNC a/neu HND yw manteisio ar ein cysylltiadau gyda Phrifysgolion lleol, a thrafod yr opsiynau ar gyfer astudio BEng, neu BSE Eng mewn Peirianneg Sifil. Gallwch hefyd ddefnyddio'r cwrs llwybr at Beirianneg Strwythurol.
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, byddwch angen:
- 2 Lefel A neu gyfwerth,
 - Gradd Teilyngdod mewn BTEC Lefel 3 ac uwch mewn Peirianneg Sifil/Adeiladu Derbynnir Diplomâu a NVQ Masnach gyda lefel briodol o brofiad
 - Derbynnir NVQs a Diplomâu Crefft gyda lefel briodol o brofiad
 - Cyfweliad gyda thiwtor i drafod amgylchiadau personol, ac asesu'r lefel o brofiad sydd gennych eisoes mewn maes cyffelyb.
 - Cyflawni diploma atodol lefel 3. (Blwyddyn 1 diploma genedlaethol)
 
Byddwch yn elwa o gael mynediad i liniadur er mwyn ymgyfarwyddo â’r broses o Gynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur.
Argymhellir i chi brynu pren mesur graddfa, pensiliau/pinnau graffig ac offer ysgrifennu cyffredinol (cost oddeutu £150.00)
                                                                                
                                                                                
                                                                                
                                                                                
                                                                                