Yn gryno
Mae yna lawer o beryglon posibl wrth weithio ar safle, ac mae’r cwrs hwn yn rhoi cyngor ymarferol ar gadw eich hun a’ch cydweithwyr yn ddiogel. Mae’n cwmpasu eich cyfrifoldebau chi fel unigolyn a chyfrifoldebau eich cyflogwr, gan gynnwys beth allech ei wneud os ydych yn meddwl fod iechyd a diogelwch unrhyw un yn cael eu peryglu.
Mae'r cwrs yn sylfaen delfrydol ar gyfer rhai sy'n dymuno sicrhau cerdyn safle'r diwydiant.
…anyone working in the construction and civil engineering industry.
…providing you with the evidence you need to apply for a CSCS Labourer card, alongside the CITB Health, Safety and Environment Test.
Mae'r cwrs hwn yn cael ei gynnal dros 1 diwrnod a'i fwriad yw rhoi dealltwriaeth i chi o:
- yr angen i osgoi damweiniau
- cyfraith iechyd a diogelwch
- sut mae eich rôl yn rhan o waith rheoli a rheolaeth y safle
- asesiadau risg a datganiadau dull
- perfformio'n ddiogel a gofyn am gyngor
- sut i adrodd am weithredoedd sydd ddim yn ddiogel er mwyn osgoi damwain
Byddwch yn cael eich asesu ar eich cyfranogiad drwy gydol y cwrs, gan gynnwys tasgau grŵp ac arholiad 25 cwestiwn.
Mae presenoldeb llawn yn orfodol.
Wedi i chi ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif sy'n ddilys am 5 blynedd.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys mewn Saesneg ar lefel weithredol.