Yn gryno
Bydd dysgwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn yn deall y gofynion ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelwch bwyd a gweithdrefnau rheoli. Yn ogystal, gallant gymhwyso a monitro arfer da o ran halogiad, rheoli tymheredd, hylendid personol a glanhau. Mae ei bynciau’n cael eu hystyried gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel rhai sy'n bwysig i gynnal arfer da wrth gynhyrchu bwyd diogel.
Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i lefel uwch neu sydd ar lefel oruchwylio o fewn busnes gweithgynhyrchu bwyd.
Mae'r pynciau ar gyfer y cymhwyster 20 awr hwn yn cwmpasu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth:
• Gofynion ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelwch bwyd a gweithdrefnau rheoli.
• Monitro a chymhwyso arferion da.
• Halogiad, rheoli tymheredd, hylendid personol a glanhau.
Bydd dysgwyr yn cwblhau arholiad amlddewis.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Mae'r cymhwyster hwn yn cael ei ddarparu ar safle cyflogwr ar gyfer grŵp o'u gweithwyr ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu’r cwrs ymlaen llaw gyda'r cyflogwr.
This is a three-day course. A formal quote can be issued once we understand your training need but as a guide, we charge £1,745 (includes all training, feedback and marking) plus additional awarding body fees (circa £47 per learner).