Yn gryno
Mae Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnig hyfforddiant technegol mewn cyfrifeg ac mae’n ddelfrydol i unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn cyfrifeg cyllid.
Yr uned rydych chi'n ei phrynu yma yw Cyfrifeg Ariannol: Uned Paratoi Datganiadau Ariannol Diploma lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg.
Mae'r uned hon yn darparu’r sgiliau a fydd eu hangen arnoch i gynhyrchu datganiadau elw neu golled a datganiadau o sefyllfa ariannol ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau drwy’r defnydd o falans prawf. Pan fyddwch mewn cyflogaeth, efallai bydd gofyn i chi baratoi cyfran, neu bob rhan, o'r cyfrifon terfynol, a bydd yr uned hon yn darparu'r wybodaeth ddamcaniaethol sydd ei hangen arnoch i gwblhau'r dasg honno. Bydd hefyd yn eich galluogi i ddeall sut y cynhyrchir cyfrifon terfynol, naill ai â llaw neu'n awtomatig trwy ddefnyddio meddalwedd cyfrifyddu.
Byddwch yn ennill y sgiliau cadw cyfrifon mynediad dwbl a fydd eu hangen i gofnodi trafodion ariannol yng nghyfrifon sefydliad, gan ddefnyddio system cadw cyfrifon â llaw. Bydd y rhain yn cael eu cario ymlaen i wneud addasiadau, gan sicrhau y bydd y cyfrifon yn cydymffurfio â sail croniadau cyfrifyddu. Byddwch yn deall dibrisiant, lle adlewyrchir colled gwerth ased anghyfredol yn ystod cyfnod penodol yn y ffigur elw ar gyfer y cyfnod hwnnw. Byddwch hefyd yn dysgu i gyfrif am lwfansau ar gyfer asedau derbyniadwy amheus lle ystyrir y tebygolrwydd na fydd yr holl gwsmeriaid credyd yn talu yn llawn. Mae'r addasiadau hyn yn cael eu gwneud yn rheolaidd gan gyflogwyr er mwyn sicrhau bod cyfrifon yn darparu golwg fwy cywir ar broffidioldeb a sefydlogrwydd ariannol y sefydliad.
Trwy ddatblygu ymwybyddiaeth o sut mae'r cyfrifon terfynol yn cael eu defnyddio, a chan bwy, byddwch yn dod i ddysgu sut i gynhyrchu cofnodion cyfrifyddu defnyddiol, weithiau o wybodaeth anghyflawn. Byddwch yn dysgu am fformat y datganiad o elw neu golled a'r datganiad o sefyllfa ariannol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio'ch sgiliau cadw cyfrifon mynediad dwbl i ddadansoddi a chywiro gwallau a wnaethpwyd yn y cyfriflyfrau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i wirio cywirdeb y balansau ar gyfrifon allweddol o fewn y system gyfrifyddu drwy gario allan cysoniadau â dogfennau annibynnol, megis cyfriflenni banc. Bydd cymarebau cyfrifyddu i gael mynediad at broffidioldeb unig fasnachwyr hefyd yn cael eu cyflwyno. Bydd hyn yn eich galluogi i ddehongli datganiadau ariannol yn fwy effeithiol.
Mae hwn yn gwrs ‘rholio-ymlaen / rholio i ffwrdd’ gyda dyddiadau cychwyn hyblyg. Rydym yn recriwtio myfyrwyr drwy gydol y flwyddyn.
Mae hwn hefyd yn gwrs dysgu cyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb traddodiadol gydag athro mewn ystafell ddosbarth a gweithgareddau dysgu gan ddefnyddio technolegau digidol o gartref).
Mae’r cwrs hwn yn dilyn cwrs Tystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 a bydd yn eich galluogi chi i ennill sgiliau pellach ym maes cyfrifyddu.
… Ydych wedi cwblhau Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg
… Ydych am ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth ym maes cyfrifeg
… Ydych am weithio mewn lleoliad cyfrifeg
Byddwch yn gwella ar y sgiliau a wnaethoch eu datblygu o Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg ac yn ennill amrywiaeth o sgiliau cyfrifyddu hanfodol a chymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifyddu costau a pharatoi adroddiadau a ffurflenni.
Mae'r Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg yn cynnwys pedair uned orfodol:
- Ymwybyddiaeth Busnes – Byddwch yn dysgu am wahanol fathau o fusnesau, strwythurau, dulliau llywodraethu, a’r fframwaith cyfreithiol y maent yn gweithredu ynddo ac effaith yr amgylchedd micro a macro-economaidd
- Cyfrifeg Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol* - Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso’r egwyddorion o gadw cyfrifon cofnod dwbl uwch, caffael a gwaredu asedau anghyfredol. Byddwch yn paratoi cyfrifiadau dibrisiant, addasiadau diwedd cyfnod ac yn cynhyrchu balans prawf estynedig.
- Prosesau Treth ar gyfer Busnes* - Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso gofynion y ddeddfwriaeth ar TAW, yn cyfrifo TAW, yn adolygu a dilysu’r broses o wneud ffurflenni treth yn ddigidol (MTD), yn dod i ddeall egwyddorion y gyflogres, ac yn astudio’r goblygiadau o wneud gwallau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â TAW.
- Prosesau Treth ar gyfer Busnes* - Byddwch yn archwilio ac yn cymhwyso gofynion y ddeddfwriaeth ar TAW, yn cyfrifo TAW, yn adolygu a dilysu’r broses o wneud ffurflenni treth yn ddigidol (MTD), yn dod i ddeall egwyddorion y gyflogres, ac yn astudio’r goblygiadau o wneud gwallau, ffeilio a thalu’n hwyr, a sut i adrodd am wybodaeth sy’n ymwneud â TAW
Drwy wneud cais yma rydych yn prynu Cyfrifeg Ariannol: Modiwl Paratoi Datganiadau Ariannol.
Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cyfrifeg, bydd angen i chi gwblhau pob un o'r pedwar modiwl uchod, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
*Er mwyn ennill y cymhwyster Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon, bydd angen i chi gwblhau’r ddau fodiwl gyda *, gallwch brynu pob modiwl ar wahân.
- Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg
neu
- Cyfweliad gyda'r tiwtor os nad oes gennych yr uchod
Bydd y cwrs nos yn cael ei amserlennu fel y ganlyn:
Bydd y cwrs nos Fawrth wyneb I wyneb ar y campws ar dydd Mawrth 5yp tan 9yp. Bydd gofyn i chi gwblhau gweddill y cwrs bob wythnos ar-lein yn eich amser hun ar blatfform ar-lein Kaplan fel y cyfarwyddir gan eich tiwtor.
Bydd deunyddiau y cwrs prynhawn yn costi £50 y modiwl, cyfanswm o £200 ar gyfer y cymhwyster llawn.
Bydd y cwrs dydd yn cael ei amserlennu fel y ganlyn:
Bydd y cwrs dydd Llun yn wyneb wyneb ar y campws ar ddydd Llun 9yb tan 16.45
Bydd deunyddiau cwrs hefyd rhwng £150 a £200 yn dibynnu ar y deunyddiau a ddewiswch
Ar ôl cwblhau Lefel 3 mewn Cyfrifeg yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen at Ddiploma Lefel 4 AAT mewn Cyfrifeg y gallwch ei wneud yn llawn amser neu'n rhan-amser yn Coleg Gwent. Ar ôl ei gwblhau gallwch ymgymryd â rôl mewn cyllid.
Ar lwyddo i gwblhau’r cwrs Cadw Llyfrau Lefel 3, gallwch chi symud i’r cwrs AAT Lefel 3 mewn Cyfrifyddu drwy gwblhau’r ddwy uned ychwanegol – Ymwybyddiaeth Busnes a Thechnegau Cyfrifeg Rheolaeth.
Costau eraill:
Llyfrau tua £30 y modiwl
Cofrestriad AAT (yn daladwy i’r AAT) £240