Yn gryno
Drwy gwblhau’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn bodloni gofynion y diwydiant i fod yn Hyfforddwr Ymarfer Campfa a Grŵp, ac yn Hyfforddwr Personol (fel y nodir yn safonau proffesiynol CIMSPA)
... Unrhyw un sydd am ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd.
Pwrpas y cymhwyster hwn yw galluogi dysgwyr i wneud y canlynol:
- Cynnal iechyd, diogelwch a hylendid mewn amgylchedd campfa
- Goruchwylio a chefnogi cyfranogwyr mewn amgylchedd campfa.
- Cynllunio, darparu a gwerthuso rhaglenni ymarfer corff yn y gampfa
- Cynllunio, darparu a gwerthuso sesiynau hyfforddiant cylchol i grwpiau.
- Ymgynghori ac asesu anghenion cleientiaid a'u cefnogi tuag at eu nodau iechyd a ffitrwydd
- Cynllunio, darparu a gwerthuso sesiynau hyfforddiant personol dan do ac yn yr awyr agored i gefnogi unigolion (un-i-un) a grwpiau bach.
- Defnyddio dulliau marchnata i hyrwyddo eu busnes hyfforddi personol eu hunain.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn.
Mae’r cymhwyster hwn yn gymhwyster mynediad galwedigaethol. Mae hyn yn golygu ei fod yn bodloni’r rhagofynion diwydiant y cytunwyd arnynt i ymuno â’r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol fel Hyfforddwr Campfa, Hyfforddwr Ymarfer Grŵp a Hyfforddwr Personol cyflogedig neu hunangyflogedig.
Gall y cymhwyster hwn hefyd arwain at hyfforddiant pellach ar yr un lefelau a/neu lefelau uwch i arbenigo a chynyddu cwmpas ymarfer. Er enghraifft:
- Arbenigeddau poblogaeth (i weithio gydag ystod ehangach o gleientiaid)
- Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Ymgysylltu Pobl Anweithgar â Gweithgaredd Corfforol i Greu Newid Ymddygiad Hirdymor (603/7345/3)
- Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Ymgysylltu Plant 0-5 Oed â Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (603/7218/7)
- Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Ymgysylltu Plant a Phobl Ifanc â Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (603/7216/3)
- Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Cefnogi Cyfranogiad mewn Gweithgarwch Corfforol. Amenedigol
- (610/0829/1) Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Cefnogi Cyfranogiad mewn Gweithgarwch Corfforol. Anabledd a Namau
- Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Cefnogi Cyfranogiad mewn Gweithgarwch Corfforol: Oedolion Hŷn (610/1668/8
- Diploma YMCA Lefel 3 mewn Atgyfeirio i Wneud Ymarfer Corff (603/3103/3)
Arbenigedd amgylcheddol (i weithio mewn mwy o leoliadau)
- Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Datblygu Rhaglenni Gweithgaredd Corfforol Cynaliadwy. Mewn Lleoliadau Cymunedol (603/7343/á)
Arbenigedd technegol (gweithio gydag offer penodol neu gyflawni rolau ychwanegol yn y gweithle):
- Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Arwain Hyfforddiant Kettlebell (603/7186/9)
- Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Arwain Hyfforddiant Symudiad Crog (603/7187/0)
- Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Deall Dulliau i Gefnogi Unigolion (603/7146/8)
- Dyfarniad YMCA Lefel 2 mewn Diogelu Oedolion ac Oedolion sy’n Wynebu Risg (6/10/0822/9)
- Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith (603/1902/1)
- Dyfarniad YMCA Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (603/1903/3)
Mae'r cwrs yn gymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb (ar y campws) ac o bell ar-lein. Cynhelir y sesiynau wyneb yn wyneb ar ddydd Mawrth o 4pm tan 9pm.