Yn gryno
Ydych eisiau dilyn gyrfa fel hyfforddwr ffitrwydd?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r dechrau perffaith ichi, yn addysgu'r sgiliau a gwybodaeth theori ac ymarferol ichi ddod yn hyfforddwr cymwys.
Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i gael gwaith yn y dyfodol mewn campfeydd/clybiau iechyd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd y rôl yn cynnwys cynnal ymgynghoriadau campfa, ymsefydlu ac ysgrifennu rhaglenni campfa sy'n gysylltiedig ag iechyd ar gyfer cleientiaid.
...Unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio yn y gampfa/clwb iechyd
...Pobl sydd â diddordeb mewn ffitrwydd ac iechyd
... Y rhai sy'n mwynhau gweithio gyda phobl yn ddyddiol
...Unrhyw un sy'n dyheu am ddod yn Hyfforddwr Campfa.
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â llu o fodiwlau, gan gynnwys:
- Anatomeg a Ffisioleg (arholiad)
- Darparu profiad cadarnhaol i gwsmeriaid yn yr amgylchedd ymarfer corff
- Iechyd, Diogelwch a Lles mewn Amgylchedd Ffitrwydd
- Cynllunio a pharatoi rhaglenni yn y gampfa
- Cyflwyno rhaglen yn y gampfa a chyfarwyddyd proffesiynol
Bydd angen ichi fod yn hunan-gymhellol, gweithgar, prydlon ac ymrwymedig, yn frwd dros ddod yn hyfforddwr ffitrwydd cymwys ac yn benderfynol o lwyddo'r asesiadau ymarferol ac arholiadau theori, ynghyd ag ennill profiad ymarferol gwirfoddol mewn campfa ffitrwydd. Bydd angen ichi hefyd werthfawrogi bod y cwrs yn gofyn ichi ymrwymo i bresenoldeb a'r llwyth gwaith.
Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio cyfuniad o arholiadau, unedau gorfodol a gwaith campfa, cyn eich dyfarnu â Thystysgrif Gwobr YCMA Lefel 2 mewn Hyfforddi Ffitrwydd (campfa). Yn dilyn y cwrs, gallwch ddod o hyd i waith mewn campfa ffitrwydd breifat neu gyhoeddus, neu symud ymlaen at Ddiploma Gwobr YMCA Lefel 3 mewn Hyfforddi Personol (yn ddibynnol ar brofiad).
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol, fodd bynnag, yn ddelfrydol dylech gael rhywfaint o brofiad o ymarferion yn y gampfa trwy ymarfer personol a dylai fod gennych rywfaint o ffitrwydd corfforol. Dylai dysgwyr hefyd fod â sgiliau cyfathrebu ar lefel 2, y gellir eu datblygu yn ystod y cwrs.
- Cyflogaeth mewn campfa ffitrwydd gyhoeddus neu breifat
-
Diploma Lefel 3 YMCA mewn Ymarfer Corff a Ffitrwydd: Hyfforddwr Personol
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn, fodd bynnag, bydd angen cael cyfweliad gyda Thiwtor y Cwrs.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer unigolion 19+ oed ac mae’n seiliedig ar Safonau Hyfforddwr y Gampfa a ddatblygwyd gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMPSA), ochr yn ochr â chyflogwyr yn y diwydiant.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gydnabod fel y gofyniad isafswm ar gyfer ennill cyflogaeth yn y diwydiant.