Yn gryno
Bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o egwyddorion ac ymarferion ac arferion busnes ar gyfer therapïau cyflenwol.
Ar ben hynny, byddwch yn dysgu am anatomeg, ffisioleg a phatholeg ar gyfer therapïau cyflenwol. Byddwch hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymarferol i gynnig triniaethau adweitheg safonol.
Mae hwn yn gymhwyster lefel ymarferwr.
Gellir talu ffioedd y cwrs dros 5 mis.
...y rhai sy’n mwynhau popeth yn ymwneud â therapïau cyfannol
...unrhyw un sydd â diddordeb brwd mewn therapïau cyflenwol
...gweithwyr diwyd â sgiliau cyfathrebu rhagorol
Bydd y cwrs yn ymdrin â'r unedau canlynol:
- Egwyddorion ac ymarferion therapïau cyflenwol
- Ymarfer busnes ar gyfer therapïau cyflenwol
- Gwybodaeth am anatomi, ffisioleg a phatholeg ar gyfer therapïau cyflenwol
- Darparu adweitheg ar gyfer therapïau cyflenwol
Darperir y cwrs drwy:
- Wersi theori
- Sesiynau dysgu ymarferol
- Sesiynau clinig
- Ymchwil ac astudiaethau achos
Cewch eich asesu trwy arsylwadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig ac astudiaethau achos ac ar ôl gorffen byddwch yn cyflawni'r Diploma VTCT L3 mewn Adweitheg.
Nid oes unrhyw ragofynion na gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn ond mae cefndir academaidd cadarn yn hanfodol
Mae presenoldeb llawn yn hanfodol i gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus.
To reflect industry expectations, you will be required to wear a Coleg Gwent salon uniform. Uniforms can be purchased at a cost of approximately £45 (TBC); college staff will be able to direct you to the approved supplier if / when needed.
Mae’r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallant newid.
Mae gofynion eraill yn cynnwys:
- Esgidiau da, fflat, cyfforddus (dim canvas)
- Gwallt wedi'i glymu'n ôl oddi wrth yr wyneb yn ystod yr holl sesiynau clinig
- Dim gemwaith a dim tlysau (heblaw modrwy briodas)
- Ni chaniateir unrhyw estyniadau ewinedd na farnais ewinedd. Ewinedd glân, byr ac wedi’u ffeilio