Yn gryno
Dysgwch sut i greu aeliau hardd fel rhan o’r driniaeth boblogaidd hon.
Dysgwch gan diwtor â phrofiad yn y diwydiant a chael y cyngor gorau ynghylch cynnyrch a’r broses.
Mae’r cwrs hwn yn agor llawer o ddrysau i symud ymlaen neu gall ychwanegu at eich gyrfa bresennol a gallwn ni eich cynorthwyo chi a’ch cefnogi chi.
...unrhyw un sy’n dymuno dysgu sut i lamineiddio aeliau neu unrhyw un â diddordeb mewn lamineiddio aeliau.
Yn ystod y cwrs hwn, rhoddir ystyriaeth i:
- Gwyro aeliau
- Cyngor ar ofal cyn y driniaeth a chyngor ar ôl-ofal
- Y broses lamineiddio a lliwio i orffen
- Gwrtharwyddion, gwrthweithredoedd, osgoi croes-halogi
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ond mae’n rhaid i chi fod yn fodlon gweithio ar eich gilydd er mwyn ennill y cymhwyster.