Yn gryno
Mae’r uned hon yn ffurfio rhan o gymhwyster AAT Lefel 4 ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol ac mae'n rhan orfodol o'r cymhwystergan gyfrannu 20% at y radd gyfan.
Cynlluniwyd yr uned hon i'ch paratoi at heriau a chyfleoedd go iawn o fewn amgylcheddau busnes deinamig cyfoes employability gan helpu i wella eich a'ch datblygiad proffesiynol fel i gilydd.Drwy ddatblygu dealltwriaeth gref o gysyniadau ac arferion busnes cymhleth, byddwch yn gymwys i wneud penderfyniadau gwybodus, gwella effeithiolrwydd sefydliadol, a chyfrannu at berfformiad busnes cynaliadwy.
Byddwch yn archwilio sut mae busnesau yn gosod nodau strategol ac yn gwneud penderfyniadau sy'n cyd-fynd â'u hamcanion. Mae'r unedyn chyfathrebu ar rheoli amser gan helpu i wella eich cyflogadwyeddsef sgiliau sy'n hanfodol mewn unrhyw rôl broffesiynol.
Un maes astudio allweddol yw pwysigrwydd cydraddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn y gweithle yn ogystal â deall sut mae sefydliadau'n rheoli newid yn effeithiol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol wrth drin data,sy'n cynnwys casglu, glanhau a dadansoddi data, wrth ddysgu am egwyddorion allweddol diogelu data.Bydd hyn yn gwella eich gallu i ddadansoddi data er mwyn gwneud penderfyniadau busnes gwybodus.
Yn ogystal, byddwch yn archwilio'r gwahaniaeth rhwng gofynion cyfreithiol a chyfrifoldebau moesegol, gan ddatblygu dealltwriaeth o foeseg broffesiynol a sut i ymateb i heriau moesegol a chyfreithiol gydag uniondeb.
Yn olaf, mae'r uned yn cyflwyno cysyniadau a safonau cynaliadwyedd pwysig a fydd yn eich galluogi i gydnabod y manteisiona’r heriau sydd i weithredu ymarferion cynaliadwy mewn sefydliadau.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych chi eisoes wedi cwblhau Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg ac yn bwriadu symud ymlaen i'r Diploma Lefel 4 ar gyfer Technegwyr Cyfrifeg Proffesiynol..
Fe'i cynlluniwyd bobl sydd eisiau'r hyblygrwydd i astudio ar eu cyflymder eu hunain,gan ganiatáu ichi gwblhau unedau mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau proffesiynol a phersonol. Bydd cyfle gennych i ddatblygu eich gwybodaeth bersonol ymhellach wrth fagu sgiliau cyfrifyddu uwch, gan weithio tuag at gymhwyster AAT Lefel 4 llawn mewn modd strwythuredig ond hyblyg.
Trwy gydol yr uned hon, byddwch chi’n:
- Defnyddio gwybodaeth berthnasol a thechnegau dadansoddol iddatblygu dealltwriaeth o sut mae busnesau'n gwneud penderfyniadau effeithiol
- Archwilio ffyrdd o wella effeithiolrwydd sefydliadol,gan gynnwys strategaeth, perfformiad ac effeithlonrwydd personol
- Dysgu am foeseg a gofynion cyfreithiol mewn amgylchedd cyfrifyddu a sut i gymhwyso'r rhain mewn sefyllfaoedd proffesiynol
- Dysgu sut i gasglu, rheoli a dadansoddi data,gan ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau busnes gwybodus wrth ddilyn egwyddorion diogelu data.
- Deall pwysigrwydd cynaliadwyedd ym myd busnes, sut y gall sefydliadau weithredu'n gyfrifol a'r heriau y gallent eu hwynebu
Bydd yr uned hon yn eich darparu chi â'r sgiliau ymarferol a'r wybodaeth y gellir eu rhoi ar waith yn uniongyrchol mewn rôl fusnes neu gyfrifeg broffesiynol.
I lwyddo yn yr uned hon, disgwylir i chi:
- Fynychu ac ymgysylltu'n llawn â'ch dysg, boed hynny wrth fynychu sesiynau neu drwy astudio'n annibynnol
- Rheoli eich amseryn effeithiol, gan weithio trwy bob uned ar eich cyflymder eich hun wrth gwrdd â therfynau amser y cytunwyd arnynt
- Cwblhau'r holl aseiniadau i safon broffesiynol, gan ddangos eich dealltwriaeth o gysyniadau archwilio a sicrhau
- Cymhwyso eich gwybodaeth i senarios ymarferol, gan ddangos sut mae cysyniadau'n berthnasol i ymarfer cyfrifyddu ac archwilio yn y byd go iawn
- Ceisio cymorth pan fo angen,gan fanteisio i'r eithaf ar arweiniad ac adborth oddi wrth y tiwtor
- Ymateb i adborth er mwyn gwella eich gwaith a datblygu eich sgiliau drwy gydol y cwrs
Mae’r cwrs hwn yn gofyn am lefel uchel o hunan-gymhelliant ac ymrwymiad, gan eich helpu i adeiladu’r sgiliau proffesiynol angenrheidiol er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa ym maes cyfrifyddu.
Ar ôl i chi gwblhau'r uned hon, gallwch barhau â'ch astudiaethau drwy symud ymlaen i un o'r unedau eraill o fewn Diploma Lefel 4 AAT ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol.
Gallwch chi ddewis cwblhau’r uned nesaf ar eich cyflymder eich hun, gan eich galluogi i deilwra eich taith ddysgu o amgylch eich nodau a’ch ymrwymiadau unigol. Mae’r ymagwedd hyblyg hon yn eich galluogi chi i weithio’n bwyllog tuag at gyflawni eich cymhwyster Lefel 4 cyflawn.
Ar ôl cwblhau AAT Lefel 4 ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynolbydd pedwar llwybr gwahanol ar gael i chi allu dyrchafu eich gyrfa a'ch datblygiad proffesiynol:
- Symud ymlaen i Statws Siartredig
Mae eich cymhwyster AAT Lefel 4 yn darparu esemptiadau gwerthfawr â chyrff siartredig blaenllaw, gan eich helpu i garlamu eich taith tuag at ddod yn gyfrifydd cymwysedig cyflawn:
-
- ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig):Eithriadau rhag y tri phapur cyntaf, gan ganiatáu mynediad uniongyrchol i’r lefel Sgiliau Cymhwysol
- CIMA (Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheoli):Eithriad rhag y Dystysgrif mewn Cyfrifeg Fusnes, gan alluogi mynediad ar lefel Weithredol
- ICAEW (ACA):Credydau tuag ar lefel Dystysgrif, yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn contractau archwilio neu hyfforddiant ffurfiol
- Mynediad i'r Farchnad Swyddi
Trwy gymhwyster Lefel 4, gallwch chi symud ymlaen y tu hwnt i rolau ar lefel mynediad i swyddi ar lefel uwch ym meysydd cyllid a chyfrifyddu. Mae rolau arferol yn cynnwys:
- Rheolwr Cyllid
- Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyo
- Dadansoddwr Masnachol
- Rheolwr y Gyflogres
- Dod yn aelod llawn o AAT (MAAT)
Byddwch yn gymwys i wneud cais am aelodaeth lawn o AAT a defnyddio'r dynodiad MAAT ar ôl eich enw.
Gallech hefyd ddewis dod yn Gyfrifydd AAT Trwyddedig,er mwyn i chi allu gweithio'n annibynnol a chynnig gwasanaethau cyfrifyddu i gleientiaid.
- Symud ymlaen i Addysg Uwch
Os ydych chi am barhau â'ch astudiaethau academaidd, mae llawer o brifysgolion yn cydnabod Lefel 4 AAT fel cymhwyster sy'n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd Cyfrifeg a Chyllid, felly bydd modd i chi ddechrau’n syth yn ei hail flwyddyn.
Mae’r cymhwyster hwn yn agor llwybrau hyblyg a gwobrwyol gan gefnogi dilyniant gyrfa ar unwaith a llwyddiant proffesiynol hirdymor.
Bydd angen eich bod chi wedi cwblhau cymhwyster AAT Lefel 3.
Mae cost y cwrs hwn yn cynnwys addysgu, deunyddiau’r cwrs ac un cyfle i sefyll yr arholiad.
Sylwer bod gofyniad arnoch i gofrestru fel aelod myfyriwr AAT ar gyfer Lefel 4 er mwyn cofrestru a chwblhau’r cwrs hwn.
Nid yw cost ailsefyll arholiadau wedi’i chynnwys yn ffi’r cwrs a bydd angen talu amdanynt ar wahân.