• Rhan Amser
  • Lefel 4

Uned AAT Ymwybyddiaeth Fusnes Uwch Lefel

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Busnes a Chyfrifeg
Dyddiad Cychwyn
15 Chwefror 2027
Hyd
15 wythnosau
Dull Astudio
Rhan Amser
Lefel
4
Ffioedd
£530.00 Gall gostyngiadau fod ar gael
£390.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad ar gael i unigolion dan 19 yn unig. Yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£140.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Yn gryno

Mae’r uned hon yn ffurfio rhan o gymhwyster AAT Lefel 4 ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol ac mae'n rhan orfodol o'r cymhwystergan gyfrannu 20% at y radd gyfan.

Cynlluniwyd yr uned hon i'ch paratoi at heriau a chyfleoedd go iawn o fewn amgylcheddau busnes deinamig cyfoes employability gan helpu i wella eich a'ch datblygiad proffesiynol fel i gilydd.Drwy ddatblygu dealltwriaeth gref o gysyniadau ac arferion busnes cymhleth, byddwch yn gymwys i wneud penderfyniadau gwybodus, gwella effeithiolrwydd sefydliadol, a chyfrannu at berfformiad busnes cynaliadwy.

Byddwch yn archwilio sut mae busnesau yn gosod nodau strategol ac yn gwneud penderfyniadau sy'n cyd-fynd â'u hamcanion. Mae'r unedyn chyfathrebu ar rheoli amser gan helpu i wella eich cyflogadwyeddsef sgiliau sy'n hanfodol mewn unrhyw rôl broffesiynol.

Un maes astudio allweddol yw pwysigrwydd cydraddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn y gweithle yn ogystal â deall sut mae sefydliadau'n rheoli newid yn effeithiol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol wrth drin data,sy'n cynnwys casglu, glanhau a dadansoddi data, wrth ddysgu am egwyddorion allweddol diogelu data.Bydd hyn yn gwella eich gallu i ddadansoddi data er mwyn gwneud penderfyniadau busnes gwybodus.

Yn ogystal, byddwch yn archwilio'r gwahaniaeth rhwng gofynion cyfreithiol a chyfrifoldebau moesegol, gan ddatblygu dealltwriaeth o foeseg broffesiynol a sut i ymateb i heriau moesegol a chyfreithiol gydag uniondeb.

Yn olaf, mae'r uned yn cyflwyno cysyniadau a safonau cynaliadwyedd pwysig a fydd yn eich galluogi i gydnabod y manteisiona’r heriau sydd i weithredu ymarferion cynaliadwy mewn sefydliadau.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych chi eisoes wedi cwblhau Diploma Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg ac yn bwriadu symud ymlaen i'r Diploma Lefel 4 ar gyfer Technegwyr Cyfrifeg Proffesiynol..

Fe'i cynlluniwyd bobl sydd eisiau'r hyblygrwydd i astudio ar eu cyflymder eu hunain,gan ganiatáu ichi gwblhau unedau mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau proffesiynol a phersonol. Bydd cyfle gennych i ddatblygu eich gwybodaeth bersonol ymhellach wrth fagu sgiliau cyfrifyddu uwch, gan weithio tuag at gymhwyster AAT Lefel 4 llawn mewn modd strwythuredig ond hyblyg.

Trwy gydol yr uned hon, byddwch chi’n:

  • Defnyddio gwybodaeth berthnasol a thechnegau dadansoddol iddatblygu dealltwriaeth o sut mae busnesau'n gwneud penderfyniadau effeithiol
  • Archwilio ffyrdd o wella effeithiolrwydd sefydliadol,gan gynnwys strategaeth, perfformiad ac effeithlonrwydd personol
  • Dysgu am foeseg a gofynion cyfreithiol mewn amgylchedd cyfrifyddu a sut i gymhwyso'r rhain mewn sefyllfaoedd proffesiynol
  • Dysgu sut i gasglu, rheoli a dadansoddi data,gan ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau busnes gwybodus wrth ddilyn egwyddorion diogelu data.
  • Deall pwysigrwydd cynaliadwyedd ym myd busnes, sut y gall sefydliadau weithredu'n gyfrifol a'r heriau y gallent eu hwynebu

Bydd yr uned hon yn eich darparu chi â'r sgiliau ymarferol a'r wybodaeth y gellir eu rhoi ar waith yn uniongyrchol mewn rôl fusnes neu gyfrifeg broffesiynol.

I lwyddo yn yr uned hon, disgwylir i chi:

  • Fynychu ac ymgysylltu'n llawn â'ch dysg, boed hynny wrth fynychu sesiynau neu drwy astudio'n annibynnol
  • Rheoli eich amseryn effeithiol, gan weithio trwy bob uned ar eich cyflymder eich hun wrth gwrdd â therfynau amser y cytunwyd arnynt
  • Cwblhau'r holl aseiniadau i safon broffesiynol, gan ddangos eich dealltwriaeth o gysyniadau archwilio a sicrhau
  • Cymhwyso eich gwybodaeth i senarios ymarferol, gan ddangos sut mae cysyniadau'n berthnasol i ymarfer cyfrifyddu ac archwilio yn y byd go iawn
  • Ceisio cymorth pan fo angen,gan fanteisio i'r eithaf ar arweiniad ac adborth oddi wrth y tiwtor
  • Ymateb i adborth er mwyn gwella eich gwaith a datblygu eich sgiliau drwy gydol y cwrs

Mae’r cwrs hwn yn gofyn am lefel uchel o hunan-gymhelliant ac ymrwymiad, gan eich helpu i adeiladu’r sgiliau proffesiynol angenrheidiol er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa ym maes cyfrifyddu.

Ar ôl i chi gwblhau'r uned hon, gallwch barhau â'ch astudiaethau drwy symud ymlaen i un o'r unedau eraill o fewn Diploma Lefel 4 AAT ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol.

Gallwch chi ddewis cwblhau’r uned nesaf ar eich cyflymder eich hun, gan eich galluogi i deilwra eich taith ddysgu o amgylch eich nodau a’ch ymrwymiadau unigol. Mae’r ymagwedd hyblyg hon yn eich galluogi chi i weithio’n bwyllog tuag at gyflawni eich cymhwyster Lefel 4 cyflawn.

Ar ôl cwblhau AAT Lefel 4 ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynolbydd pedwar llwybr gwahanol ar gael i chi allu dyrchafu eich gyrfa a'ch datblygiad proffesiynol:

  1. Symud ymlaen i Statws Siartredig
    Mae eich cymhwyster AAT Lefel 4 yn darparu esemptiadau gwerthfawr â chyrff siartredig blaenllaw, gan eich helpu i garlamu eich taith tuag at ddod yn gyfrifydd cymwysedig cyflawn:
    • ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig):Eithriadau rhag y tri phapur cyntaf, gan ganiatáu mynediad uniongyrchol i’r lefel Sgiliau Cymhwysol
    • CIMA (Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheoli):Eithriad rhag y Dystysgrif mewn Cyfrifeg Fusnes, gan alluogi mynediad ar lefel Weithredol
    • ICAEW (ACA):Credydau tuag ar lefel Dystysgrif, yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn contractau archwilio neu hyfforddiant ffurfiol
  1. Mynediad i'r Farchnad Swyddi
    Trwy gymhwyster Lefel 4, gallwch chi symud ymlaen y tu hwnt i rolau ar lefel mynediad i swyddi ar lefel uwch ym meysydd cyllid a chyfrifyddu. Mae rolau arferol yn cynnwys:
  • Rheolwr Cyllid
  • Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyo
  • Dadansoddwr Masnachol
  • Rheolwr y Gyflogres
  1. Dod yn aelod llawn o AAT (MAAT)
    Byddwch yn gymwys i wneud cais am aelodaeth lawn o AAT a defnyddio'r dynodiad MAAT ar ôl eich enw.

Gallech hefyd ddewis dod yn Gyfrifydd AAT Trwyddedig,er mwyn i chi allu gweithio'n annibynnol a chynnig gwasanaethau cyfrifyddu i gleientiaid.

  1. Symud ymlaen i Addysg Uwch
    Os ydych chi am barhau â'ch astudiaethau academaidd, mae llawer o brifysgolion yn cydnabod Lefel 4 AAT fel cymhwyster sy'n cyfateb i flwyddyn gyntaf gradd Cyfrifeg a Chyllid, felly bydd modd i chi ddechrau’n syth yn ei hail flwyddyn.

Mae’r cymhwyster hwn yn agor llwybrau hyblyg a gwobrwyol gan gefnogi dilyniant gyrfa ar unwaith a llwyddiant proffesiynol hirdymor.

Bydd angen eich bod chi wedi cwblhau cymhwyster AAT Lefel 3.

Mae cost y cwrs hwn yn cynnwys addysgu, deunyddiau’r cwrs ac un cyfle i sefyll yr arholiad.

Sylwer bod gofyniad arnoch i gofrestru fel aelod myfyriwr AAT ar gyfer Lefel 4 er mwyn cofrestru a chwblhau’r cwrs hwn.

Nid yw cost ailsefyll arholiadau wedi’i chynnwys yn ffi’r cwrs a bydd angen talu amdanynt ar wahân.

Student talking to staff in the library

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NCDI0077DG
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Hyd
15 wythnosau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
15:45

Ffioedd: £530.00

£390.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad ar gael i unigolion dan 19 yn unig. Yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£140.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Gall gostyngiadau fod ar gael

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy