• Llawn Amser

Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth

Photography student
Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dyddiad Cychwyn
24 Medi 2026
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys

Yn gryno

Mae’r radd sylfaen hon mewn ffotograffiaeth yn cyfuno sgiliau ffotograffiaeth greadigol ag astudiaeth academaidd, fel eich bod yn gallu cyfleu eich creadigrwydd a’ch syniadau drwy ffotograffiaeth.

... Rydych chi’n greadigol

... Mae gennych ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth

... Rydych chi o ddifri am yrfa mewn ffotograffiaeth

Yn y radd sylfaen hon mewn ffotograffiaeth, cewch edrych ar arbenigedd mewn ffotograffiaeth a datblygu arbenigedd a fydd yn rhoi modd i chi droi eich brwdfrydedd a’ch creadigedd yn yrfa. Byddwch yn datblygu sgiliau ffotograffiaeth ddigidol a ffilm broffesiynol ochr yn ochr â gwybodaeth am hanes ac ymarfer ffotograffig.

Mae’r cwrs yn golygu astudio am ddwy flynedd ar gampws Crosskeys, ac yn arwain at gymhwyster FDa Lefel 5. Mae’r cwrs hefyd yn gadael i chi symud ymlaen i flwyddyn ‘ychwanegol’ i gwblhau eich trydedd flwyddyn, ac ennill Gradd BA Anrhydedd lawn.

Mae’r Radd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yn cynnwys popeth o ffotograffiaeth fasnachol mewn meysydd fel portreadau, priodasau, ffasiwn, golygyddol neu hysbysebu, hyd at gelfyddyd gain, celf gysyniadol a chelf arddangosfa. Bydd y cwrs cyffrous ac arloesol hwn yn datblygu eich gyrfa ffotograffiaeth, ac yn rhoi rhwydd hynt i chi fod y ffotograffydd rydych chi wastad wedi dychmygu cael bod.

Yn y cwrs ffotograffiaeth hwn, gallwch ddatblygu eich creadigedd a gweithio tuag at faes arbenigol. Byddwch yn datblygu sgiliau ffotograffiaeth ddigidol a thechnegau ffilm traddodiadol, ac mewn cyfryngau eraill hefyd fel delwedd symudol, sain, dylunio’r we, SEO, prosesau amgen, datblygu portffolio ac arddangosfa. Mae’r radd sylfaen hon mewn ffotograffiaeth yn un ymarferol gan mwyaf, ond mae’n datblygu dealltwriaeth o hanes ffotograffiaeth hefyd, er mwyn gallu gwerthfawrogi cyd-destun ffotograffiaeth yn well.

Mae’r ochr ymarferol yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o weithdai, darlithoedd a thiwtorialau, yn ogystal â sgrinio, ymweld ag orielau, arddangosiadau, teithiau maes a thaith ryngwladol. Ar y cwrs, rydym yn falch o’n cysylltiadau â diwydiant, ac yn darparu llu o gyfleoedd i’n myfyrwyr weithio gyda phobl broffesiynol creadigol drwy brosiectau cleientiaid. Mae gennym bartneriaethau ers tro efo Ffotogallery, Porsche Automotive, RSPB a llawer o bartneriaethau eraill nodedig sy’n cydweithio â ni.

Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn cwblhau’r modiwlau canlynol:

Blwyddyn 1

  • Hanfodion Ffotograffig
  • Persbectifau Ffotograffig
  • Dealltwriaeth Rhyngddisgyblaethol
  • Egwyddorion Ymchwil

Blwyddyn 2

  • Ymarfer Ffotograffig Creadigol
  • Cynnig Ymchwil
  • Heriau’r 21ain Ganrif

Drwy gyfres o brosiectau ymarferol a heriol, byddwch yn gwella eich gwybodaeth o dechnegau ffotograffig. Bydd pob modiwl ymarferol yn datblygu eich sgiliau technegol ac yn gosod aseiniadau cyffrous i ddatblygu eich creadigedd a gwella eich sgiliau efo’r camera.

Ar y cwrs, byddwch chi’n astudio ac yn ymchwilio i ffotograffiaeth ac yn datblygu sgiliau technegol ac artistig heb eu hail, gan ddefnyddio cyfleusterau pwrpasol. Bydd y rhain yn cynnwys ystafell dywyll wlyb draddodiadol, stiwdio broffesiynol, cyfrifiaduron o safon ddiwydiannol, meddalwedd trin lluniau, cymwysiadau ffilm, fideo a rhyngrwyd.

Byddwch yn edrych ar ffotograffiaeth lonydd a byw, yn arddangos eich gwaith, ac yn cynhyrchu portffolio gwaith cyfoethog, traethodau a llyfrau braslunio ymchwil.

Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen arnoch am yrfa mewn ffotograffiaeth, neu gallwch gwblhau’r drydedd flwyddyn i ennill Gradd BA (Anrh) lawn.

Ystyrir pob cais ar sail unigol.

Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed feddu ar o leiaf 3 TGAU (gradd C neu'n uwch) sy’n cynnwys naill ai Saesneg neu Gymraeg, a naill ai Mathemateg neu un o’r gwyddorau, yn ogystal â chymhwyster L3 (megis Diploma Cenedlaethol BTEC) sy'n gyfwerth neu'n uwch na 48 pwynt UCAS.

Cyfrifiannell tariffau UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator

Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21+ oed), ac ystyrir ceisiadau ar sail unigol. Er nad yw cymwysterau ffurfiol yn ofynnol, mae diddordeb yn y pwnc, yn ogystal ag ymrwymiad ac awydd i ddysgu, yn hanfodol.

Bydd disgwyl i chi brynu camera digidol SLR o ansawdd da efo cerdyn SD. Ar hyd y ddwy flynedd, bydd angen i chi ddarparu deunyddiau arddangos, fel llyfrau braslunio a phortffolios. Bydd angen i chi hefyd brynu eich printiau eich hun.

Gellir gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd sydd yn breinio’r cwrs.

Cod y sefydliad yw C20.

Cod y campws yw 7.

Camera DSLR, £300+. Gorfodol - N

Photography

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDG0014AC
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Dydd Iau a Dydd Gwener

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy