Yn gryno
Mae’r uned hon yn ffurfio rhan o gymhwyster Diploma AAT Lefel 4 ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol ac mae’n gydran orfodol o’r cymhwyster gan gyfrannu 15% at y radd gyffredinol.
Yn yr uned hon, byddwch chi’n datblygu dealltwriaeth gryf o rôl a phwysigrwydd rheolyddion mewnol mewn sefydliad a sut maent yn helpu i atal a chanfod twyll. Byddwch chi’n dysgu sut i adnabod risgiau twyll posibl a gwerthuso sut y gall systemau rheoleiddio mewnol effeithiol liniaru’r risgiau hyn mewn cyd-destun byd go iawn.
Mae’r cwrs hefyd yn cyflwyno egwyddorion allweddol archwilio a sicrwydd, gan roi cipolwg ar y fframwaith rheoleiddio ehangach a phwysigrwydd llywodraethiant corfforaethol mewn amgylcheddau busnes modern. Byddwch chi’n ennill dealltwriaeth ymarferol o’r broses archwilio, o gynllunio cychwynnol hyd at gwblhau a llunio adroddiadau archwiliadau.
Trwy gydol yr uned, byddwch chi’n archwilio sut mae rheolyddion mewnol yn dylanwadu ar ymagweddau archwilio ac yn datblygu sgiliau i werthuso a phrofi systemau rheoleiddio yn effeithiol. Byddwch chi hefyd yn dysgu am ddatganiadau archwiliadau, technegau samplo, a’r dulliau a ddefnyddir i gael tystiolaeth archwilio ddigonol a phriodol.
Erbyn diwedd yr uned hon, byddwch chi’n gallu adolygu ac adrodd canfyddiadau archwiliad yn hyderus, gan roi’r sgiliau hanfodol i chi ar gyfer gyrfa ym meysydd cyfrifyddu, archwiliad neu gyllid.
Mae’r cwrs hwn yn berffaith os ydych chi eisoes wedi cwblhau’r Diploma AAT Lefel 3 mewn Cyfrifyddu ac rydych chi’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs Lefel 4 Diploma ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol.
Mae wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno cael yr hyblygrwydd i astudio ar eu cyflymder eu hunain, gan eich galluogi i gwblhau unedau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith a’ch ymrwymiadau personol. Cewch gyfle i adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol wrth ddatblygu sgiliau cyfrifyddu uwch, gweithio tuag at gymhwyster cyflawn AAT Lefel 4 mewn ffordd strwythuredig ond hyblyg.
Trwy gydol yr uned hon, byddwch chi’n:
- Datblygu dealltwriaeth o’r rôl a phwysigrwydd rheolyddion mewnol o fewn sefydliadau
- Archwilio’r fframwaith archwilio a sicrwydd, gan gynnwys rheolyddion ac egwyddorion allweddol
- Dysgu sut i gynllunio archwiliadau a chynnal asesiadau risg effeithiol
- Gwerthuso a phrofi systemau rheoleiddio mewnol fel rhan o’r broses archwilio
- Cymhwyso ystod o weithdrefnau i gasglu tystiolaeth archwilio ddigonol a phriodol
- Adolygu canfyddiadau archwiliad a dysgu sut i adrodd ar ganlyniadau yn glir ac yn broffesiynol
Byddwch chi’n adeiladu sgiliau ymarferol, byd go iawn y gellir eu cymhwyso’n uniongyrchol i yrfaoedd ym meysydd cyfrifyddu, archwilio a chyllid.
I lwyddo yn yr uned hon, disgwylir i chi:
- Fynychu ac ymgysylltu’n llawn â’ch dysgu, os yw hynny yn ystod y sesiynau neu drwy astudio annibynnol
- Rheoli eich amser yn effeithiol gan weithio trwy bob uned ar gyflymder sy’n addas i chi wrth fodloni dyddiadau cau y cytunwyd arnynt
- Cwblhau pob aseiniad i safon broffesiynol, gan ddangos eich dealltwriaeth o gysyniadau archwilio a sicrwydd
- Cymhwyso eich gwybodaeth i senarios ymarferol, gan ddangos sut mae cysyniadau yn berthnasol i ymarfer cyfrifyddu ac archwilio yn y byd go iawn
- Gofyn am gymorth pan fydd ei angen arnoch chi, gan wneud y defnydd mwyaf o arweiniad tiwtoriaid ac adborth
- Gweithredu ar adborth i wella eich gwaith a datblygu eich sgiliau drwy gydol y cwrs
Mae’r cwrs hwn yn gofyn am lefel uchel o hunan-gymhelliant ac ymrwymiad, gan eich helpu i adeiladu’r sgiliau proffesiynol angenrheidiol er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa ym maes cyfrifyddu.
Ar ôl i chi gwblhau’r uned hon, gallwch chi barhau â’ch astudiaethau trwy symud ymlaen i un o’r unedau eraill sy’n rhan o’r Diploma AAT Lefel 4 ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol.
Gallwch chi ddewis cwblhau’r uned nesaf ar eich cyflymder eich hun, gan eich galluogi i deilwra eich taith ddysgu o amgylch eich nodau a’ch ymrwymiadau unigol. Mae’r ymagwedd hyblyg hon yn eich galluogi chi i weithio’n bwyllog tuag at gyflawni eich cymhwyster Lefel 4 cyflawn.
Ar gwblhau’r Diploma AAT Lefel 4 ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol, bydd pedwar llwybr amlwg ar gael ar gyfer eich datblygiad gyrfa a phroffesiynol pellach:
1. Symud ymlaen i Statws Siartredig
Mae eich cymhwyster AAT Lefel 4 yn darparu esemptiadau gwerthfawr â chyrff siartredig blaenllaw, gan eich helpu i garlamu eich taith tuag at ddod yn gyfrifydd cymwysedig cyflawn:
- Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA): Esemptiadau rhag y tri phapur cyntaf, gan ganiatáu mynediad uniongyrchol i’r lefel Sgiliau Cymhwysol
- Sefydliad siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA): Esemptiad rhag y Dystysgrif mewn Cyfrifyddu Busnes, gan alluogi mynediad ar lefel Gweithrediadol
- ICAEW (ACA): Credydau tuag at y lefel Tystysgrif, sy’n berffaith ar gyfer y rhai sydd â diddordeb yng nghontractau archwiliadau neu gontractau hyfforddiant ffurfiol
2. Camu i’r Farchnad Swyddi
Trwy gymhwyster Lefel 4, gallwch chi symud ymlaen y tu hwnt i rolau ar lefel mynediad i swyddi ar lefel uwch ym meysydd cyllid a chyfrifyddu. Mae rolau arferol yn cynnwys:
- Rheolwr Cyllid
- Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyo
- Dadansoddwr Masnachol
- Rheolwr y Gyflogres
3. Dod yn Aelod AAT Cyflawn (MAAT)
Byddwch chi’n gymwys i gyflwyno cais am aelodaeth gyflawn AAT a defnyddio’r dynodiad MAAT ar ôl eich enw.
Gallwch chi hefyd ddewis dod yn Gyfrifydd Trwyddedig AAT gan eich galluogi i weithio’n annibynnol a chynnig gwasanaethau cyfrifyddu i gleientiaid.
4. Symud Ymlaen i Addysg Uwch
Os hoffech chi barhau â’ch astudiaethau academaidd, mae llawer o brifysgolion yn cydnabod cymhwyster AAT Lefel 4 fel cymhwyster sy’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf ar gwrs gradd mewn Cyfrifyddu a Chyllid gan eich galluogi chi i fynd i mewn i ail flwyddyn y cwrs ar unwaith.
Mae’r cymhwyster hwn yn agor llwybrau hyblyg a gwobrwyol gan gefnogi dilyniant gyrfa ar unwaith a llwyddiant proffesiynol hirdymor.
Bydd angen eich bod chi wedi cwblhau cymhwyster AAT Lefel 3.
Mae cost y cwrs hwn yn cynnwys addysgu, deunyddiau’r cwrs ac un cyfle i sefyll yr arholiad.
Sylwer bod gofyniad arnoch i gofrestru fel aelod myfyriwr AAT ar gyfer Lefel 4 er mwyn cofrestru a chwblhau’r cwrs hwn.
Nid yw cost ailsefyll arholiadau wedi’i chynnwys yn ffi’r cwrs a bydd angen talu amdanynt ar wahân.