Yn gryno
Os ydych yn gweithio yn y sectorau peirianneg a gweithgynhyrchu, bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau a gwybodaeth saernïo a weldio gwell i chi, drwy ymdrin ag ystod o dechnegau weldio a gydnabyddir gan y diwydiant, gan roi i chi dealltwriaeth drylwyr o'r prosesau weldio a'u defnydd, a'r offer, y deunyddiau a'r nwyddau traul a ddefnyddir.
...unrhyw un sy'n gweithio ym maes peirianneg a gweithgynhyrchu.
Mae'r cwrs yn ymdrin â'r prosesau weldio Metal Active/Inert Gas Shielding (MAGS/MIGS), Manual Metal Arc (MMA) a Tungsten Active/Inert Gas Shielding (TAGS/TIGS), a bydd angen i chi gwblhau ystod o uniadau wedi'u weldio mewn safleoedd weldio amrywiol i'r safon weldio BSEN 4872. Bydd yr uniadau wedi'u weldio hyn yna'n mynd drwy brofion dinistriol amrywiol cyn cael eu hasesu'n weledol gan yr asesydd.
Byddwch yn dysgu sut i adnabod diffygion weldio sylfaenol, sut i adfer ac atal unrhyw namau a all godi, ac addasu a phennu'r amodau ar gyfer weldio yn unol â manylebau perthnasol a gweithdrefnau weldio.
Bydd angen i chi hefyd baratoi ar gyfer weldio drwy gael gafael ar y cyfarwyddiadau angenrheidiol i'r swydd, deunyddiau, offer, cyfarpar ac unrhyw ddogfennaeth, a gwirio ac archwilio'r cyfarpar weldio i wneud yn siwr ei fod mewn cyflwr gweithio diogel ac yn addas ar gyfer ymgymryd â gwaith weldio.
Wedi i chi gwblhau'r cwrs hwn, gallech fynd ymlaen i Ddyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Weldio Uwch.
Bydd angen i chi gael cymhwyster Lefel 1 mewn Saernïo a Weldio, Dyfarniad Lefel 2 City & Guilds mewn Weldio Uwch, ac o leiaf 2 blynedd o brofiad yn y diwydiant o'r prosesau weldio dethol neu gyfweliad i asesu eich sgiliau.
Bydd angen i chi ddarparu eich Cyfarpar Diogelu Personol eich hun (esgidiau dur trwm ac oferôls o ddeunydd gwrthdan).