Yn gryno
Anelir y cymhwyster BA mewn Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon at fyfyrwyr sydd am ganolbwyntio ar gynhyrchu sain ac ysgrifennu caneuon.
Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar y diwydiant cerddoriaeth o gyfansoddi ac ysgrifennu caneuon i gynhyrchu mewn stiwdio a chyfansoddi a sain ar gyfer ffilmiau.
... Ydych chi'n angerddol dros gerddoriaeth boblogaidd
... Ydych chi’n chwilio am gwrs ymarferol i roi profiad i chi
... Ydych chi am ennill cyfuniad o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol
Byddwch yn cael eich addysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol, yn ymgymryd â phrosiectau go iawn a chymryd rhan mewn gweithdai gydag artistiaid sy'n ymweld.
Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy i helpu i ddysgwyr symud ymlaen mewn eu dewis o faes cerdd.
Byddwch yn dod yn raddedig a fydd yn gwella'r sin gerddoriaeth yng Nghymru, gan gyfrannu ag amrywiaeth o wahanol ddisgyblaethau.
Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:
Cynhyrchu yn y Stiwdio : Hyfedredd Technegol yn y stiwdio.
Ysgrifennu Caneuon : Datblygu sgiliau a thechnegau ysgrifennu caneuon.
Cyfansoddi a Sain ar gyfer Ffilmiau : Datblygu sgiliau Cyfansoddi / Sain Foleyar gyfer Ffilmiau.
Y Cydweithredwr Cerddoriaeth : Datblygu sgiliau cydweithio a rhwydweithio.
Byddwch yn defnyddio ein stiwdios recordio o’r radd flaenaf sy’n cynnwys desg Audient HE8024, ystod lawn o ficroffonau Neumann gan gynnwys recordio deuglust pen dymi.
Mae ein hystafell ôl-gynhyrchu yn cynnwys ystafell sain Foley gyda galluoedd ‘sain i lun’ llawn, cyfleusterau DAW o ansawdd uchel a dewis helaeth o offerynnau cerddoriaeth electronig analog.
Mae ein stiwdios hefyd yn cynnwys consol cymysgu sgrin gyffwrdd Steven Slate Raven MTI2.
Mae ein dewis o bennau a chabiau seinchwyddwr yn cynnwys Soldano slo 100w, Vox AC30 a Marshall JCM 900.
Gellir gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.
Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.
Llwybr Dilyniant:
Msc Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru
MA Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu ym Mhrifysgol De Cymru
Peirianneg Stiwdio
BBC (rolau amrywiol)
ÔL-Gynhyrchu
Cyfansoddwr Caneuon Llawrydd
Peiriannydd Sain Llawrydd
Cyfansoddi ar gyfer Ffilmiau
Cerddoriaeth Llyfrgell
Ystyrir pob cais ar sail unigol.
Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr 18-21 oed feddu ar o leiaf 3 TGAU (gradd C neu'n uwch) sy’n cynnwys naill ai Saesneg neu Gymraeg, a naill ai Mathemateg neu un o’r gwyddorau, yn ogystal â chymhwyster L3 (megis Diploma Cenedlaethol BTEC) sy'n gyfwerth neu'n uwch na 48 pwynt UCAS.
Cyfrifiannell tariffau UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr aeddfed (21+ oed), ac ystyrir ceisiadau ar sail unigol. Er nad yw cymwysterau ffurfiol yn ofynnol, mae diddordeb yn y pwnc, yn ogystal ag ymrwymiad ac awydd i ddysgu, yn hanfodol.
