Yn gryno
Technoleg Pwmp Gwres a Phwmp Gwres Ffynhonnell Aer Domestig (Lefel 3)
Technoleg Pwmp Gwres a Phwmp Gwres Ffynhonnell Daear Domestig (Lefel 3)
Wedi’u dylunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i osodwyr osod pympiau gwres yn gywir. Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i fodloni gofyniad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a gweithgorau diwydiant.
Mae’r cwrs hwn wedi’i rannu yn dair rhan sy’n gallu cael eu dilyn fel a ganlyn:
Technoleg Pwmp Gwres (2 ddiwrnod) a Ffynhonnell Aer (1 diwrnod) Cyfanswm = 3 diwrnod,
Technoleg Pwmp Gwres (2 ddiwrnod), Ffynhonnell Aer (1 diwrnod) a Ffynhonnell Daear (1 diwrnod) Cyfanswm = 4 diwrnod,
Mae’r llawlyfr hyfforddiant yn caniatáu i chi astudio ar eich cyflymder eich hun, i gadw’r amser a dreulir ar y cwrs hyfforddiant i leiafswm. Mae’n bwysig eich bod chi’n astudio cynnwys y llawlyfr cyn mynychu’r cwrs i sicrhau eich bod chi wedi eich paratoi’n gywir a gallwch chi gymryd rhan yn y trafodaethau yn ystod y cwrs.
Wedi’i gydnabod fel prawf o alluedd ar gyfer y Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu (MCS).
Fel arfer, mae asesiadau’n cynnwys cyfuniad o arholiadau ymarferol a damcaniaethol.
Dylai hyfforddeion feddu ar isafswm o
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Plymio neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiad Domestig) neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiad Diwydiannol a Masnachol) neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwasanaethau Technegol Olew neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gosodiad a Chynnal a Chadw Nwy neu ardystiad cyfatebol blaenorol; neu
- Osodwyr gwresogi sy’n meddu ar isafswm o 3 blynedd o brofiad yn gosod systemau gwres canolog gwlyb, wedi’u tystio gan naill ai ardystiad o gyrsiau gwneuthurwyr neu gofrestriad ar Gofrestr Diogelwch Nwy, cofrestriad OFTEC, cofrestriad MCS neu gofrestriad HETAS
AC os nad yw wedi’i gynnwys yn rhan o’r cymhwyster uchod
- Rheoliadau Dŵr / Is-ddeddfau Dŵr
Nid yw tystysgrifau technegol unigol / Cymwysterau Galwedigaethol (nad ydynt yn seiliedig ar allu) yn dderbyniol
Fel rhan o broses cyflwyno cais BPEC bydd angen i ymgeiswyr ddarparu ffotograff pasbort a holl gopïau gwreiddiol o dystysgrifau sy’n berthnasol i’ch cais ar ddiwrnod yr hyfforddiant.
Mae’r a’r llawlyfr includes:
- Pympiau gwres mewn cyd-destun
- Sut mae pwmp gwres yn gweithio – egwyddorion a chydrannau
- Insiwleiddio, colledion gwres ac effaith dyluniad system wresogi
- Dŵr poeth domestig, tanciau byffro a choiliau solar
- Cyfnewidwyr gwres daear
- Iechyd a Diogelwch
- Gosodiad pwmp gwres
- Cynnal a chadw a chanfod namau
Cost y cwrs hwn yw:
Technoleg Pwmp Gwres (2 ddiwrnod) a Ffynhonnell Aer (1 diwrnod) Cyfanswm = 3 diwrnod – £750
Technoleg Pwmp Gwres (2 ddiwrnod), Ffynhonnell Aer (1 diwrnod) a Ffynhonnell Daear (1 diwrnod) Cyfanswm = 4 diwrnod – £1000
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o’r cynllun Cyfrif Dysgu Personol. Mae’r cynllun Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim trwy ddysgu hyblyg a chyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd). … unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.