Yn gryno
Mae BPEC yn ddarparwr arbenigol o gymwysterau, asesiadau, cyrsiau hyfforddiant a deunyddiau dysgu a gydnabyddir gan ddiwydiant. Mae’r cwrs hyfforddiant Effeithlonrwydd Ynni (Rhan L) wedi’i ddylunio i fod yn berthnasol i ofynion plymwyr/gosodwyr systemau gwresogi a pheirianwyr nwy y mae angen iddynt hunan-ardystio eu gwaith trwy un o’r Cynlluniau Personau Cymwys a’r rhai sy’n cyflawni gwaith mewn eiddo newydd sbon ac eiddo presennol gan fodloni gofynion cydymffurfiaeth.
… pawb sydd am adeiladu’r wybodaeth a’r arbenigedd i ddarparu cartrefi carbon sero net.
Mae’r deunyddiau hyfforddi ar gyfer y cwrs hwn yn cynnwys:
- Dogfen L Gymeradwy, Rhifyn 1
- Canllaw Dylunio Gwresogi Domestig CIBSE
Asesir Effeithiolrwydd Ynni (Rhan L) yn ôl arholiad damcaniaethol byr sy’n cynnwys ymarfer colli gwres a gosod gwresogydd.
Dylai ymgeiswyr fod yn osodwyr systemau gwres canolog domestig nwy, olew neu danwydd solet profiadol.
Fel rhan o broses ymgeisio BPEC, gofynnir i ymgeiswyr ddod â llun pasbort a chymwysterau perthnasol gyda nhw ar y diwrnod.
Mae tystysgrifau fel arfer yn ddilys am 5 mlynedd.
Mae’r cwrs hwn yn costio £170.00.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
... unrhyw un 19 oed neu'n hŷn sy'n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.