Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn eich darparu â sgiliau a gwybodaeth hanfodol, yn ogystal â chymhwyster proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant mewn Tylino Corff Swedaidd, gan eich galluogi chi i ennill yswiriant i weithio â chleientiaid a gwella eich rhagolygon cyflogaeth.
...unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant harddwch, yn arbennig mewn amgylchedd sba sy'n cynnig ystod o therapïau.
Pwrpas y cymhwyster hwn yw datblygu eich sgiliau mewn darparu triniaethau tylino corff i lefel uchel o allu galwedigaethol, i'ch galluogi chi i ddarparu eich gwasanaethau eich hun i gleientiaid.
Yn ystod y cwrs hwn byddwch chi'n astudio:
- Iechyd a Diogelwch
- Gofal a Chysylltiad â Chleientiaid
- Anatomeg a ffisioleg
- Osgo a gwallau osgo cyffredin
- Symudiadau Tylino Swedaidd a ffyrdd o'u cymhwyso
- Gwrthrybuddion i dylino, a gwrth-weithredoedd a ellir eu profi ar ôl tylino
- Canllawiau ôl-ofal a gofal yn y cartref
I ddechrau, bydd dosbarthiadau ymarferol yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau tylino personol ar fyfyrwyr eraill; unwaith eich bod wedi ennill rhywfaint o hyder, byddwch chi'n gweithio ar gleientiaid sy’n talu ar gyfer astudiaethau achos ac asesiad. Byddwch chi'n ymgymryd â gwaith theori ac astudiaeth yn y cartref sy'n hanfodol ar gyfer rhywfaint o waith anatomegol, ffisiolegol a phrosiect, ac fe'ch asesir ar waith ymarferol ac yn ystod gwersi theori.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc yn ddigon.
Bydd angen i chi brynu gwisg clinig sy'n costio oddeutu £45.