Yn gryno
Os ydych chi’n angerddol am ddechrau gyrfa ym maes trin gwallt dynion, bydd y cwrs gyda’r nos hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol angenrheidiol i chi er mwyn symud i gymhwyster NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt Dynion
...y rhai â diddordeb brwd mewn trin gwallt dynion
... pobl â sgiliau rhyngbersonol da
...unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa ym maes trin gwallt dynion
Yn ystod y cwrs, byddwch chi’n astudio’r unedau canlynol:
- Gweithio yn y diwydiant gwallt
- Dilyn iechyd a diogelwch yn y gweithle
- Cynnal ymgynghoriad â chleientiaid ar gyfer gwasanaethau gwallt
- Rhoi shampŵ a chyflyrydd ar y gwallt a chroen y pen
- Torri gwallt dynion
- Celfyddyd lliwio gwallt
- Steilio gwallt dynion
Cewch eich asesu ar gyfer y cymhwyster drwy gyflawni tasgau ymarferol a phrofion ar-lein
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond mae diddordeb brwd ym maes trin gwallt dynion, y gallu i gyfathrebu’n dda a gwedd ddestlus yn hanfodol.
Bydd angen sicrhau presenoldeb llawn er mwyn llwyddo i gwblhau’r cwrs
I adlewyrchu disgwyliadau’r diwydiant, bydd gofyniad i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent a’r gost fydd £33.00. Hefyd, bydd angen cit trin gwallt dynion a’r gost fydd £130.00. Gall staff y Coleg eich cyfeirio i’r darparwr cymeradwy os bydd angen. Caiff gwisg lawn a chôd gwisg eu trafod yn ystod noson gynta’r cwrs.
Mae’r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallant newid.
Ffioedd y cwrs - £205.00
Ffioedd cofrestru - £76.00