Yn gryno
Ewch â’ch arbenigedd ym maes Adnoddau Dynol i’r lefel nesaf trwy gymhwyster Diploma Cysylltiol mewn Rheoli Pobl Lefel 5 CIPD.
Mae’r cwrs hwn wedi’i ddylunio i fagu eich hyder, hogi eich meddwl strategol a chryfhau eich effaith ar sefydliad.
Os ydych chi’n dymuno symud ymlaen i ymarfer pobl ar lefel reolaeth, mae’r cymhwyster hwn yn rhoi’r sgiliau a’r mewnwelediad i gyrraedd y nod.
Rydych chi’n angerddol am helpu pobl i ffynnu yn y gwaith a hoffech chi feithrin gyrfa lwyddiannus ym maes Adnoddau Dynol neu reoli pobl.
Rydych chi eisoes yn gweithio mewn rôl sy’n ymwneud ag ymarfer pobl a hoffech chi ddwysáu eich gwybodaeth, ychwanegu gwerth a gwneud penderfyniadau hyderus sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Neu efallai eich bod chi’n camu i rôl rheoli pobl a hoffech chi feddu ar gymhwyster sy’n cefnogi eich cynnydd.
Drwy gydol y cwrs, byddwch chi’n astudio ystod o fodiwlau craidd ar reoli pobl, gan gynnwys:
- Rheoli Perthnasoedd Cyflogaeth
- Rheoli Doniau a Chynllunio’r Gweithlu
- Gwobrwyo ar gyfer Perfformiad a Chyfraniad
- Perfformiad Sefydliadol a Diwylliant Ar Waith
- Ymarfer sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth
- Ymddygiadau Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl
- Hanfodion Dysgu a Datblygu
Mae’r dosbarthiadau’n rhyngweithiol, yn gydweithredol ac wedi’u dylunio i’ch helpu i dynnu ar eich profiadau eich hunan wrth ddysgu gan gymheiriaid.
I ennill y cymhwyster, bydd angen i chi gyflawni aseiniad ar gyfer pob un o’r saith modiwl, gan roi cyfle i chi gymhwyso dysgu yn uniongyrchol i sefyllfaoedd go iawn yn y gweithle.
I gael y budd mwyaf o’r cwrs hwn, bydd angen i chi fod yn ymrwymedig, yn drefnus ac yn barod i gymryd rhan weithredol yn eich taith ddysgu. Mae hwn yn gymhwyster proffesiynol felly mae astudio annibynnol ochr yn ochr â’ch sesiynau a addysgir yn hanfodol.
Disgwylir i chi:
- Fynychu a chymryd rhan weithredol mewn sesiynau a addysgir a thrafodaethau grŵp
- Cyflawni darllen ac ymchwil annibynnol i gefnogi eich dysgu
- Rheoli eich amser yn effeithiol i fodloni dyddiadau cyflwyno aseiniadau
- Cymhwyso eich dysgu i sefyllfaoedd yn y gweithle lle y bo’n bosibl
- Dangos ymddygiadau proffesiynol yn unol â safonau CIPD
- Ymgysylltu ag adborth a’i ddefnyddio i wella eich gwaith
Bydd cymorth ar gael gan eich tiwtoriaid drwy gydol y cwrs er mwyn eich arwain chi a’ch helpu i gadw ar y trywydd cywir.
Mae’r diploma hwn yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa fuddiol ym maes rheoli pobl, gan agor drysau i rolau cynghori a phartneriaid busnes ym maes Adnoddau Dynol a rolau pobl ar lefel reoli. Ar ôl cwblhau Lefel 5, bydd hefyd gennych chi’r opsiwn o symud ymlaen i gymhwyster Diploma Uwch Lefel 7 CIPD er mwyn ehangu eich arbenigedd a’ch cyfleoedd gyrfa ymhellach.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr 18+ oed sy’n dymuno dysgu am ymarfer pobl.
Bydd angen i chi feddu ar naill ai Tystysgrif Sylfaen mewn Ymarfer Pobl Lefel 3 neu brofiad perthnasol mewn rôl rheoli pobl.
Mae mynediad i’r cwrs yn amodol ar drafodaeth broffesiynol i sicrhau bod y cwrs hwn yn addas ar gyfer eich gwybodaeth a’ch nodau gyrfa.
Mae Tystysgrif Sylfaen CIPD yn darparu cymhwyster a gydnabyddir yn broffesiynol ac mae'n hanfodol eich bod yn dod yn aelod o’r CIPD ar ôl i chi ddechrau astudio'r cymhwyster.
Nid yw pris y cwrs yn cynnwys ffioedd cofrestru ar gyfer aelodaeth myfyriwr o’r CIPD (y mae'n rhaid eu talu'n uniongyrchol i'r CIPD).
Mae’r cwrs rhan amser hwn fel arfer yn cael ei gyflwyno un diwrnod yr wythnos am 33 wythnos.