Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau cyllid a chyfrifeg ymarferol sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ichi a all agor drysau mewn sawl diwydiant ledled y byd. Mae'n ddelfrydol os ydych am weithio mewn rôl cyfrifyddu, er enghraifft gydag awdurdodau lleol, yswiriant, banciau neu bractis cyfrifeg, ac mae'n cynnig llwybr rhagorol i ddod yn Gyfrifydd Siartredig.
...swydd fel gweinyddwr cyfrifon, cynorthwyydd cyfrifon, clerc cyfrifon taladwy, clerc llyfrau cyfrifon pryniadau/gwerthiannau, technegydd cyfrifeg dan hyfforddiant neu gynorthwyydd cyllid dan hyfforddiant
...gyrfa mewn cyfrifeg neu gyllid
...unrhyw un sydd eisiau mynd ymlaen i astudiaethau lefel gradd mewn Busnes
Mae’r Dystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg yn mynd i’r afael ag ystod eang o sgiliau cyfrifeg craidd, yn ogystal â sgiliau busnes a sgiliau personol yn ymwneud â chyfrifeg. Mae themâu allweddol drwy gydol maes cymwysterau cyfrifeg, gan gynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu. Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys pedair uned hanfodol:
- Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
- Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon
- Egwyddorion Prisio
- Yr Amgylchedd Busnes
Diben y cymhwyster hwn yw sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi yn llawn i fynd ymlaen i yrfa fusnes, cyllid neu gyfrifeg broffesiynol neu addysg bellach.
Byddwch yn datblygu sgiliau cyfrifeg mewn cadw cyfrifon cofnod dwbl a chostiad sylfaenol, yn ogystal â dealltwriaeth o brynu, gwerthu a chyfriflyfrau cyffredinol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd cyfrifeg a datblygu'r sgiliau a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i gyfrannu'n effeithiol yn y gweithle. Hefyd byddwch yn dysgu sgiliau TG a dealltwriaeth o'r amgylchedd busnes. Byddwch yn cael eich cyflwyno i elfennau o gyfraith contract, cyfraith cyflogaeth a chyfraith cwmni.
Asesir tair uned yn unigol mewn arholiadau diwedd uned.
Bydd hefyd angen i chi sefyll asesiad synoptig sy’n ymdrin ac yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws nifer o unedau.
Os oes gennych unrhyw brofiad cyfrifeg neu ariannol blaenorol, gallwch sefyll gwiriad sgiliau ar-lein yn www.aatskillcheck.org/ Os oes gennych unrhyw brofiad cyfrifeg neu ariannol blaenorol, gallwch sefyll gwiriad sgiliau ar-lein yn www.aatskillcheck.org/ i'ch helpu chi benderfynu a ddylech ddechrau Tystysgrif Lefel 2 neu Ddiploma Lefel 3. Os ydych yn teimlo y dylech ddechrau ar Lefel 3, cewch gyfweliad asesu i sicrhau eich bod ar y lefel astudio gywir.
I astudio'r cymhwyster hwn, bydd angen ichi ymuno â'r AAT fel aelod myfyriwr, sydd ar hyn o bryd yn costio oddeutu £172.
Codir tâl ychwanegol o oddeutu £205 am ddeunyddiau'r cwrs. Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.