Yn gryno
Yn cael ei gydnabod fel rhan o'r Fframwaith Prentisiaeth, bydd y cwrs blwyddyn hwn yn rhoi i chi cymhwyster cysylltiedig â gwaith, arbenigol iawn mewn Peirianneg, a'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith yn y sector hwnnw.
...unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant peirianneg.
Bydd rhaid i chi feddu ar ddealltwriaeth dda o fathemateg a gwyddoniaeth a mwynhau datrys problemau cymhleth sy'n gysylltiedig â dylunio mecanyddol a gweithgynhyrchu, adeiladu a diagnosio diffygion; yn ogystal, rhaid bod yn hollol ymrwymedig i bresenoldeb ac yn gallu gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm.
Mae'r cwrs ei hun yn cynnwys prosiectau ac aseiniadau yn seiliedig ar sefyllfaoedd gwaith go iawn, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau ymarferol yn y gweithdy/labordy, sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, arddangosiadau, ymweliadau â chwmnïau a siaradwyr gwadd o'r diwydiant. Ymhlith y pynciau y byddwch yn ymdrin â nhw mae:
- Egwyddorion peirianneg, sydd yn cwmpasu mathemateg ac egwyddorion mecanyddol a thrydanol
- Cyflwyno prosesau peirianneg yn ddiogel fel tîm
- Dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch peirianneg
- Dylunio â chymorth cyfrifiadurol mewn peirianneg
Fe’ch asesir drwy aseiniadau (sydd wedi'u graddio fel 'pasio', 'teilyngdod' neu 'rhagoriaeth', arholiadau ac asesiad allanol, profion a gwaith ymarferol.
Ar ôl cwblhau, byddwch yn ennill:
Tystysgrif Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol.
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys C mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg Iaith a B mewn Mathemateg, ynghyd â thair gradd C arall (yn ddelfrydol mewn Gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig), neu gymhwyster Lefel 2 priodol gyda phroffil Teilyngdod. Ystyrir dysgwyr hyn ar sail cymwysterau mynediad a/neu eich profiad.
Os ydych yn dilyn Prentisiaeth ffurfiol, mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud cwrs ychwanegol i gwblhau'r sgiliau hanfodol sy'n ofynnol. Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunain, h.y. ffolderi, rhanwyr pwnc, pinnau ysgrifennu, pensiliau, cwmpawd, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.