Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Gwaith Asiedydd yn gwrs 3½ blynedd lle rydych chi'n gyflogedig gan gwmni gwaith coed neu gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg un diwrnod yr wythnos.
Tra byddwch ar y safle gyda'ch cyflogwr byddwch yn meithrin sgiliau a phrofiad o weithio ar dasgau gwaith coed. Ar y dechrau, byddwch yn gwneud tasgau lefel isel ac yn helpu asiedydd cymwys i wneud eu gwaith; ond dros amser, byddwch yn ennill profiad fel y gallwch gwneud gwaith asiedydd eich hun. Byddwch yn cael eich asesu ar y safle yn gwneud amrywiaeth o dasgau gwaith coed ar ddiwedd y cwrs. Dyma'r "Prosiect Ymarferol Terfynol" lle bydd asesydd o'r coleg yn ymweld a chi am nifer o ddyddiau i gadarnhau eich cymhwysedd.
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin a phynciau penodol, yn ogystal a sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
Gwersi damcaniaeth mewn ystafelloedd dosbarth â chyfarpar da
Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig
Trafodaethau
Arddangosiadau
Sesiynau tiwtorial 1:1 a grŵp
Sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy rhagorol
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o gymwysterau Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol, os oes angen.
Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf
Isafswm o ddau TGAU gradd A* i D mewn Saesneg, Cymraeg neu Fathemateg
neu
Dylech fod wedi cyflawni cymhwyster ol-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu.
a
meddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ol gadael addysg orfodol
a
Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
Gellir cwblhau'r brentisiaeth hon mewn 3 blynedd os oes gennych Graidd Lefel 2 mewn Peirianneg Adeiladu neu Wasanaethau Adeiladu sydd hefyd ar gael trwy ein cynnig llawn amser a rhan amser.