Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Gwaith Saer yn gwrs 3 ½ blynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi gan gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod yr wythnos.
Tra byddwch ar y safle gyda'ch cyflogwr byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad o weithio ar swyddi gwaith coed. I ddechrau, byddwch yn gwneud swyddi lefel isel ac yn helpu gweithwyr coed cymwys i wneud eu gwaith; ond dros amser, byddwch yn ennill profiad fel y gallwch wneud swyddi gwaith coed eich hun. Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn cael eich asesu ar y safle yn gwneud amrywiaeth o swyddi. Gelwir hyn yn "Brosiect Ymarferol Terfynol" lle bydd asesydd coleg yn ymweld a chi dros nifer o ddyddiau i gadarnhau eich cymhwysedd.
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin a phynciau penodol, yn ogystal a sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf
Gwersi damcaniaeth mewn ystafelloedd dosbarth â chyfarpar da
Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig
Trafodaethau
Arddangosiadau
Sesiynau tiwtorial 1:1 a grŵp
Sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy rhagorol
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o gymwysterau Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol, os oes angen.
Isafswm o ddau TGAU gradd A* i D mewn Saesneg, Cymraeg neu Fathemateg
neu
Dylech fod wedi cyflawni cymhwyster ol-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu.
a
meddu ar o leiaf blwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ol gadael addysg orfodol
a
Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
Gellir cwblhau'r brentisiaeth hon mewn 3 blynedd os oes gennych Graidd Lefel 2 mewn Peirianneg Adeiladu neu Wasanaethau Adeiladu sydd hefyd ar gael trwy ein cynnig llawn amser a rhan amser.