Yn gryno
Mae Prentisiaeth Lefel 2 mewn Cyfrifeg yn gwrs sy'n para blwyddyn lle rydych chi eisoes yn gweithio ym maes cyfrifeg neu gyllid ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod yr wythnos.
Mae gan y cwrs ddull strwythuredig o hyfforddi a datblygu technegwyr cyfrifyddu a darpar gyfrifwyr sy'n deall anghenion y sefydliad a’i gwsmeriaid, yn ogystal â’r sector y maent yn gweithio ynddo.
Bydd y prentisiaid yn astudio i gael Tystysgrif Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) mewn Cyfrifeg Lefel 2.
Bydd y cymhwyster hwn yn mireinio sgiliau cadw cyfrifon cofnod dwbl. Bydd y myfyriwr yn dod i ddeall sut i weithio gyda chyfnodolion, cyfrifon rheoli a balansau prawf.
Bydd myfyrwyr hefyd yn dod i ddeall pecynnau meddalwedd cyfrifyddu, dulliau o brosesu gwybodaeth ariannol yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni'r cwmni, a sut i gyfleu gwybodaeth i gydweithwyr, cyflenwyr a/neu gwsmeriaid yn ôl yr angen.
Mae yna bedair uned i'r cymhwyster hwn
- Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
- Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon
- Egwyddorion Prisio
- Yr Amgylchedd Busnes
Wedyn asesiad cyffredinol ar ddiwedd y flwyddyn.
Trwy fireinio'r sgiliau hyn yn ystod y cwrs, bydd modd i fyfyriwr symud ymlaen i ddiploma mewn Cyfrifyddu Proffesiynol Lefel 3. Gallai hyn arwain atynt wneud cynnydd proffesiynol.
- TGAU gradd A* - C (neu gymhwyster cyfwerth) mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg NEU bydd angen ennill cymhwyster llawn Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu fel rhan o'r brentisiaeth
- Rhaid i brentisiaid fod yn gyflogedig ym maes Cyfrifeg/Cyllid
- Mae'n ofynnol i bob myfyriwr gofrestru gyda chorff proffesiynol technegwyr cyfrifyddu
- Mae pob lle yn amodol ar gyfweliad boddhaol
Darlithoedd wyneb yn wyneb ac asesiadau allanol dros y cyfrifiadur drwy gydol y cwrs.