Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Goruchwylio ac Arweinyddiaeth Lletygarwch yn gwrs 18 mis lle rydych chi'n cael eich cyflogi. Nid ydych chi'n mynychu'r coleg.
Mae'r Diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo yn cwmpasu gwestai, bwytai, tafarndai, caffis, arlwyo contract a gwasanaethau lletygarwch. Ar Lefel 3 mae'r llwybr Goruchwylio ac Arweinyddiaeth Lletygarwch ar gyfer unrhyw un sydd eisoes mewn rol arwain tim ac mae'n darparu hyfforddiant i helpu unigolion i ddod yn Rheolwr / Goruchwyliwr Gwesty, Prif Dderbynydd neu Brif Wasanaethwr Ty mewn amgylchedd lletygarwch.
Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle
Cwblhau portffolio o dystiolaeth
Arsylwadau yn y gweithle
Tasgau a phrofion theori
Mae angen cymwysterau Lefel 2 ac mae profiad mewn coginio proffesiynol yn ddymunol.
Rhaid i brentisiaid gael cyflogwr a all fodloni meini prawf NVQ.
Mae pob lle yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cwblheir Diploma NVQ Lefel 3 mewn Goruchwylio ac Arweinyddiaeth Lletygarwch a Dyfarniad Lefel 3 mewn Egwyddorion Goruchwylio ac Arweinyddiaeth Lletygarwch yn y gweithle.