Yn gryno
Mae prentisiaeth mewn Gweithrediadau Contractio Adeiladu yn gwrs 2 flynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi gan gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod yr wythnos.
Tra byddwch ar y safle gyda'ch cyflogwr byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad o weithio ar safle adeiladu yn cyflawni swyddi amcangyfrif, prynu, cynllunio a chymorth technegol.
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin a phynciau penodol, yn ogystal a sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf
Gwersi damcaniaeth mewn ystafelloedd dosbarth â chyfarpar da
Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig
Trafodaethau
Arddangosiadau
Sesiynau tiwtorial 1:1 a grŵp
Sesiynau ymarferol gyda chyfleusterau gweithdy rhagorol
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o gymwysterau Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol, os oes angen.
Oherwydd yr amrywiaeth o ddysgwyr sy'n mynychu'r cwrs rhan-amser; gallai eich cymwysterau gynnwys rhai ond nid o reidrwydd pob un o'r canlynol:
Cymwysterau Masnach Lefel 3, gan gynnwys diplomau ac NVQs
5 TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg
Profiad Diwydiant gyda chyfweliad
Cymwysterau Lefel A, Gradd neu uwch gyda'r bwriad o newid cyfeiriad gyrfa
Mae'r cymhwyster seiliedig ar waith yn gofyn i chi fod yn gwneud yr ystod o waith gyda'ch cyflogwr a fydd yn eich galluogi i'w gwblhau'n llwyddiannus.
Cwblheir Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gweithrediadau Contractio Adeiladu yn y gweithle. Cwblheir Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn rhan-amser yn y Coleg.