• Llawn Amser
  • Lefel 1

BTEC Diploma mewn Astudiaethau Galwedigaethol – Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2025
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
1

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn paratoi dysgwyr i ddilyn cwrs Lefel 2. Mae'r cwrs yn cael ei asesu'n barhaus, ac mae'n ymdrin ag amrywiaeth o unedau craidd sydd wedi'u dylunio i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a chyfathrebu, ynghyd ag unedau opsiynol mewn Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o asesiadau. Ar hyn o bryd does dim arholiadau ynghlwm â'r cwrs.

...rydych eisiau symud ymlaen at astudiaeth bellach mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Gofal Plant

...rydych eisiau datblygu sgiliau cyflogadwyedd

...rydych eisiau datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd

Bydd y cymhwyster BTEC hwn yn datblygu'r wybodaeth sydd ei hangen mewn swyddi a chyfleoedd o fewn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Gofal Plant. Bydd dysgwyr yn gwneud unedau craidd ac opsiynol (10 uned i gyd).

Rhoddir pwyslais ar ddatblygu cyflogadwyedd, llythrennedd a rhifedd, cyfathrebu a gweithio mewn tîm i baratoi dysgwyr i symud ymlaen i'r lefel nesaf.

Byddwch yn dysgu drwy waith grwp a dysgu yn y dosbarth.

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau, gweithgareddau grwp ac unigol i gefnogi eich cynnydd a'ch dysgu.

Bydd dysgwyr hefyd yn parhau i astudio Mathemateg a Saesneg.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Mae'n rhaid i ddysgwyr arddangos ymrwymiad llawn (presenoldeb) i bob agwedd ar y cwrs yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Byddwch angen dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc, y gallu i gymell eich hun ac angerdd tuag at y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyfle i symud ymlaen at raglen Lefel 2. Os ydych eisiau symud ymlaen at Raglen Gofal Plant neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd angen gradd MM arnoch chi, yn ogystal ag ymgysylltiad a chynnydd mewn sgiliau (Mathemateg a Saesneg).

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond mae angen i chi ddangos ymrwymiad ac awydd i weithio o fewn y sector. Mae empathi, dibynadwyedd, prydlondeb a set o sgiliau caredig a chefnogol yn hanfodol.

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Côd y Cwrs
EFBD0047AA
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Dinas Casnewydd

Côd y Cwrs
NFBD0047AC
Dull Astudio
Llawn Amser

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFBD0047AD
Dull Astudio
Llawn Amser

Parth Dysgu Torfaen

Côd y Cwrs
PFBD0047AC
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy