• Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Rheoli Anifeiliaid Lefel 3

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga
Lefel
3

Yn gryno

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn rhoi sail ymarferol a damcaniaethol i chi ar gyfer gweithio gydag anifeiliaid.

... Rydych chi eisiau dilyn gyrfa yn y diwydiant tir

... Rydych chi eisiau astudio yn y brifysgol.

...Rydych chi'n dymuno dod yn nyrs filfeddygol.

...Rydych chi eisiau cyfuniad o theori a gwaith ymarferol.

Mae hyn yw'r flwyddyn cyntaf o cwrs 2 flynedd ac yn cynnwys 15 uned yn amrywio o sesiynau theori yn bennaf, fel geneteg ac anatomeg, i bynciau ymarferol fel da byw fferm, hwsmonaeth a thrafod anifeiliaid bach.

Mae’r cwrs yn cynnwys 150 awr o leoliad diwydiant, lle byddwch yn magu profiad o weithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid. Mae lleoliadau yn amrywio o swau a pharciau bywyd gwyllt i siopau anifeiliaid anwes a mlifeddygfeydd, yn y DU yn ogystal â thramor. Mae’r 150 awr i’w cwblhau yn eich amser eich hun ac yn ystod gwyliau coleg.

Mae’r uned gofal anifeiliaid yn sylfaen ar gyfer y gwersi ymarferol ac yn dod â chi i gysylltiad ag amrywiaeth fawr o anifeiliaid, o ystafell ymlusgiaid wedi ei stocio’n dda, ystafell gnofilod ac ardaloedd y tu allan.

Mae'r padogau o amgylch yr uned gofal anifeiliaid yn gartref i ddau asyn achub. Mae’r ganolfan geffylau yn gartref i ddetholiad o geffylau y gellir eu hymgorffori yn eich sesiynau ymarferol ar gyfer profiad gydag anifeiliaid mawr ac yn ystod sgiliau stad byddwch yn cael mynediad i’r holl offer yn ein gweithdai llawn stoc.

Os ydych chi’n dymuno teithio, mae llawer o gyfleoedd dramor, yn amrywio o waith cadwraeth yn Affrica i achub cathod mawr yn yr Unol Daleithiau.

Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ysgrifenedig ac arholiadau, yn ogystal ag asesiadau ymarferol.

Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn ennill:

  • Diploma Sylfaen Cenedlaethol BTEC mewn Rheoli Anifeiliaid Blwyddyn un
  • Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Rheoli Anifeiliaid Blwyddyn 2

 

I gofrestru, bydd angen isafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar raddfa Clod gyda chymwysterau TGAU i gynnwys Mathemateg/Rhifedd Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf ar radd C neu uwch.

Mae angen ymrwymiad llawn at fynychu, yn ogystal â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunangymhelliad ac angerdd am reoli anifeiliaid. Byddwch chi’n cael eich asesu’n barhaol ac mae disgwyl y byddwch yn parhau â’ch astudiaethau a gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.

Ar ôl cwblhau Diploma Sylfaen Cenedlaethol BTEC mewn Rheoli Anifeiliaid yn llwyddiannus, gallwch barhau i astudio'r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid (gyda gwyddoniaeth). Ar ôl hynny, mae gennych y dewis i symud ymlaen i addysg uwch i astudio pynciau fel swoleg, nyrsio milfeddygol ac ymddygiad anifeiliaid, neu gallech ddod o hyd i waith mewn siopau anifeiliaid anwes, cytiau cwn a gwasnaethwyr cwn.

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Bydd angen i chi fod wedi cael chwistrelliad tetanws diweddar cyn dechrau gweithio gyda’r anifeiliaid.

Am resymau Iechyd a Diogelwch, bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelwch Personol (PPE) cyn gweithio gyda’r anifeiliaid;

  • Wellingtons bodiau dur
  • Cot lab glas tywyll
  • Oferôlau glas tywyll
  • abag i gario eich PPE

Y chost y cyfarpar yw tua £40. Dylech brynu’r eitemau hyn cyn dechrau eich cwrs

Campws Brynbuga

Côd y Cwrs
UFBE0005AB
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy