Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai hynny sy'n dilyn gyrfa yn nisgyblaethau technegol y diwydiant adeiladu.
..y rhai hynny sy'n dymuno gweithio ym meysydd pensaernïaeth, cynllunio, dylunio adeiladau, rheoli prosiectau, mesur meintiau, arolygu adeiladau ac fel technegwyr CAD.
Bydd y cwrs yn ymdrin â'r canlynol:
- Cynllunio
- Cynaliadwyedd
- Dylunio neu weithio fel aelod o dîm safle
5 TGAU gradd A i C, i gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith.
Cynigir cyfweliadau i ymgeiswyr sydd â phrofiad mewn diwydiant ond nid ydynt yn meddu ar gymwysterau ffurfiol.
Mae prentisiaethau Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) ar gael a bydd hyn hefyd yn gam dilyniant naturiol i'r prentisiaid hynny sydd eisoes wedi cyflawni NVQ yn seiliedig ar grefft.