Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno chi i'r maes astudiaeth sydd o ddiddordeb i chi ac i'ch helpu i ddatblygu sgiliau dysgu ehangach.
... Mae gennych ddiddordeb mewn anifeiliaid
... Rydych chi eisiau datblygu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy
Bydd y cwrs hwn y darparu ystod o gyfleoedd symud ymlaen i chi, gan gynnwys dysgu ychwanegol yn y coleg ar un o’n cyrsiau lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth!
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich gwybodaeth, sgiliau ymarferol a gweithio mewn tîm gydag amrywiaeth o rywogaethau anifeiliaid yn ein casgliad anifeiliaid coleg. Bydd yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd dilyniant i chi, gan gynnwys dysgu pellach yn y coleg ar un o’n cyrsiau lefel nesaf, prentisiaeth neu gyflogaeth!
Byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda'r anifeiliaid yn y coleg a chael cipolwg ar fywyd coleg. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy ac yn cwblhau tasgau sy'n canolbwyntio ar ddangos yr hyn y gallwch ei wneud a'r hyn yr ydych wedi'i ddysgu.
Mae'r unedau craidd yr un peth ar draws ein holl gyrsiau astudiaethau galwedigaethol, a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau o fewn eich dewis faes galwedigaethol. Os oes angen i chi newid i gwrs gwahanol, gallwch drosglwyddo'r unedau a astudiwyd ar y cwrs hwn i'ch cwrs nesaf, os oes angen.
Mae’r unedau craidd y byddwch yn eu dilyn yn cynnwys:
- Bod yn drefnus
- Creu cynllun datblygu
- Gweithio gydag eraill
- Ymchwilio i bwnc
Gall yr unedau Gofal Anifeiliaid gynnwys:
- Dod i wybod am y Sector Diwydiannau'r Tir
- Gofalu am anifeiliaid a'u bwyd
- Symud a lletya anifeiliaid
- Defnyddio offer gweithdy
- Paratoi pridd ar gyfer plannu
- Cynnal iechyd anifeiliaid
Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol a byddwch yn cyflawni:
- Lefel 1 mewn Astudiaethau Galwedigaethol Tir - Gofal Anifeiliaid
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant, yn weithgar ac yn barod i roi cynnig ar bethau newydd. Bydd disgwyl i chi ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau gwaith realistig yn y coleg, gan ganiatáu i chi adeiladu ar eich sgiliau cyflogadwyedd. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn ofyniad gorfodol y cwrs hwn.
- Gallech barhau â'ch astudiaethau ar Lefel 1 mewn maes galwedigaethol o'ch dewis
- Gallech fynd yn eich blaen i ddilyn prentisiaeth
Nid oes angen unrhyw gymwysterau mynediad ffurfiol, ond rhaid bod gennych ddiddordeb byw mewn amrywiaeth eang o anifeiliaid bach.
Cyn dechrau’r cwrs a gallu gweithio gyda’r anifeiliaid byddwch angen brechiad tetanws diweddar.
Ar gyfer Iechyd a Diogelwch, byddwch hefyd angen prynu Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) cyn gweithio gyda’r anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys:
- cot labordy
- welingtons dur trwm
- oferôls glas tywyll
- bag i gario eich PPE
Bydd yn costio oddeutu £40 i brynu’r offer, a dylid gwneud hynny cyn dechrau eich cwrs.