Yn gryno
Mae'r cwrs dwy flynedd hwn a gydnabyddir fel rhan o'r Fframwaith Prentisiaeth yn arbenigol iawn a bydd yn rhoi i chi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau i'ch paratoi ar gyfer gwaith ym maes peirianneg drydanol ac electronig.
...unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiannau trydanol ac electronig.
...y rhai hynny sy'n dymuno datblygu eu gyrfa bresennol a symud ymlaen i addysg uwch, gradd a rhaglenni datblygiad proffesiynol.
Bydd angen i chi gael dealltwriaeth dda o fathemateg a gwyddoniaeth a mwynhau datrys problemau cymhleth i ddylunio cylchedau, adeiladu a chanfod diffygion, yn ogystal ag ymrwymiad llawn i fynychu a gallu gweithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm.
Mae'r cwrs ei hun yn cynnwys prosiectau ac aseiniadau yn seiliedig ar sefyllfaoedd gwaith go iawn, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau ymarferol yn y gweithdy/labordy, sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, arddangosiadau, ymweliadau â chwmnïau a siaradwyr gwadd o'r diwydiant. Ymhlith y pynciau y byddwch yn ymdrin â nhw mae:
- Iechyd a diogelwch yn y gweithle peirianneg
- Cyfathrebu ar gyfer technegwyr peirianneg
- Egwyddorion trydanol ac electronig
- Mathemateg ar gyfer technegwyr peirianneg
- Egwyddorion dyfeisiau a chylchedau electronig a'u defnydd
- Technoleg drydanol
- Gosod trydan
- Canfod diffygion electronig
- Prosiect peirianneg
- Dewis a defnyddio rheolyddion rhaglenadwy
Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau (a fydd yn cael eu graddio ar lefel llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth), adroddiadau, profion byr, gwaith ymarferol a gwaith portffolio cyn ennill Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig (120 credyd), y gallech wedi hynny fynd ymlaen i HNC Peirianneg Drydanol/Electronig yn Coleg Gwent neu gyrsiau eraill ar lefel prifysgol, Prentisiaeth neu gyflogaeth yn y sector peirianneg.
HNC Peirianneg Drydanol/Electronig yng Ngholeg Gwent neu lefel prifysgol arall, astudiwch Brentisiaeth neu gyflogaeth yn y sector peirianneg.
Bydd angen i chi feddu ar 5 cymhwyster TGAU, gradd C neu uwch, mewn Iaith Gymraeg neu Iaith Saesneg a gradd B mewn Mathemateg, ynghyd â 3 gradd C arall (yn ddelfrydol mewn gwyddoniaeth neu bynciau cysylltiedig), neu eich bod chi wedi llwyddo i ennill cymhwyster Lefel 2 perthnasol gan ennill proffil Teilyngdod. Mae’r diploma yn gwrs dilyniant yn unig a bydd angen tystysgrif estynedig arnoch chi. Ymgeisiwch
Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunain, h.y. ffolderi, rhanwyr pwnc, pinnau ysgrifennu, pensiliau, cwmpawd, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.