• Rhan Amser
  • Lefel 3

IMI / City & Guilds Dyfarniad mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid/Trydan Lefel 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Moduro
Dyddiau
On Demand Courses will run subject to booking numbers
Dull Astudio
Rhan Amser
Lefel
3
Ffioedd
£675.00
£625.00 Ffioedd Dysgu

£50.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Yn gryno

Mae yna angen cynyddol am dechnegwyr modurol i gynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau hybrid a thrydan. Bydd y cwrs hwn yn darparu'r ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio'n ddiogel ar systemau foltedd uchel sydd yn y ceir hyn.

...rydych chi yn gweithio yn y diwydiant modurol ar hyn o bryd

...rydych yn gweithio yn y maes cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau hybrid/trydan

Byddwch yn dysgu drwy ystod o weithgareddau dosbarth a gwaith ymarferol yn ein gweithdai sydd â chyfarpar gwerth chweil. Byddwch yn cael cyfle i weithio'n ymarferol gyda'n hystod o gerbydau trydan cyfoes.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen ichi yn yr holl systemau cerbydau trydan sydd angen gofal ychwanegol a gwybodaeth arbenigol, a byddwch yn magu hyder a'r gallu i ddelio'n ddiogel ac effeithiol gyda phob math o gerbydau sy'n ymgorffori Systemau Foltedd Uchel.

Byddwn yn mynd i'r afael â:

  • Gweithio'n ddiogel ar gerbydau gyda systemau foltedd uchel
  • Gweithio'n ddiogel yn ystod cynnal a chadw arferol cerbydau hybrid/trydan
  • Ailosod cydrannau mewn systemau foltedd uchel cerbydau hybrid/trydan
  • Trin cerbydau sydd â difrod i'r systemau foltedd uchel

Fe'ch asesir drwy:

  • Arholiad Ysgrifenedig
  • Asesiad ymarferol

Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Hybrid / Trydan Lefel 3

Mae'r cwrs ar gyfer technegwyr sy'n gweithio yn y diwydiant modurol ac yn meddu ar gymhwyster lefel 3 neu gyfwerth.

Does dim angen gwybodaeth flaenorol o weithio gyda cherbydau hybrid/trydan.

Canolfan ATA

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy