En

Paratoi ar gyfer Astudiaethau Galwedigaethol Lefel Mynediad 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Sgiliau Byw’n Annibynnol

Lefel

Lefel
Entry 3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Yn gryno

Mae hon yn rhaglen lefel mynediad sydd wedi ei dylunio ar gyfer dysgwyr ble gallai amgylchedd dosbarth nodweddiadol fod yn heriol iddynt. Mae'n gwrs cyflwyniadol i gwmpasu anghenion unigol bob dysgwr, gan ddarparu amgylchedd diogel iddynt astudio ynddo, cyn symud ymlaen at gyrsiau Lefel 1.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Ydych eisiau profiad o fywyd yn y coleg.

...Rydych eisiau gwella eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.

...Rydych angen cyfle i wella eich sgiliau gwaith a bywyd wrth benderfynu ar lwybr eich gyrfa yn y dyfodol.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os nad oes gennych unrhyw gymwysterau ffurfiol ac yn chwilio am gwrs lefel mynediad.

Mae'r cwrs yn cyffwrdd ar amrywiaeth o bynciau ymarferol megis coginio, garddwriaeth, iechyd a hamdden, TGCh, a manwerthu er mwyn gwella sgiliau gwaith a bywyd pob myfyriwr.

Bydd dysgwyr yn gallu dewis o amrywiaeth o bynciau i weithio arnynt, yn dibynnu ar eu hanghenion dysgu. Byddant yn gweithio i gyflawni tystysgrif estynedig neu ddyfarniad mewn Astudiaethau Galwedigaethol BTEC Lefel 3, yn ogystal â Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu.

Meysydd dan sylw:

  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • Sgiliau cyflogadwyedd
  • Prosiectau yn cwmpasu sgiliau meddal megis adeiladu hyder, perthnasau, presenoldeb a chynhwysiad.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Does dim gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd yn rhaid i chi ddangos parodrwydd i gymryd rhan ym mhob sesiwn a gweithgaredd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch symud ymlaen at Fynediad i Astudiaethau Galwedigaethol, cyrsiau hyfforddi neu gyflogaeth wedi ei chefnogi.

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn ystod y cwrs hwn, anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth o brosiectau gwirfoddoli gyda'r gymuned, i'w helpu nhw i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau.

Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael tiwtorialau wythnosol ac mae cymorth ar gael i ateb anghenion yr unigolyn a'u helpu nhw i ffynnu yn ystod eu hamser yn y coleg.

Byddwch yn cael eich dysgu mewn grwp bach, ac mae staff cefnogi yn gweithio'n agos gyda dysgwyr i annog hyder, hunan barch a sgiliau gwerthfawr eraill.

Ble alla i astudio Paratoi ar gyfer Astudiaethau Galwedigaethol Lefel Mynediad 3?

NFSN0063AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr