Prif Raglen ILS Lefel Mynediad
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Lefel
Entry
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn rhoi'r cyfle i unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wella eu sgiliau, i'w helpu i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned. Mae wedi'i gynllunio i helpu i feithrin hyder mewn bywyd dydd i ddydd ac i baratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth.
Dyma'r cwrs i chi os...
... ydych eisiau gwella sgiliau rhifedd, llythrennedd a byw'n annibynnol
... oes gennych ddiddordeb mewn dysgu am goginio, hamdden a chrefftau
... ydych eisiau profiad o fywyd coleg a fydd yn eich paratoi ar gyfer byw'n annibynnol a byd gwaith.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Yn ogystal â dysgu amrywiaeth eang o sgiliau byw'n annibynnol, bydd dysgwyr yn dilyn rhaglen sy'n rhoi sylw i'r Pedair Colofn Ddysgu, sy'n ymdrin ag Iechyd a Llesiant, Cyflogadwyedd, Byw'n Annibynnol a Chyfranogiad Cymunedol. Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar sail dull sy'n canolbwyntio ar y person, i ddiwallu anghenion unigol.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Bydd dysgwyr yn cael asesiad man cychwyn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall dysgwyr symud ymlaen at gymwysterau cyn-alwedigaethol a/neu gyrsiau hyfforddiant/cyflogaeth gefnogol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Drwy gydol cyfnod y cwrs, bydd pob dysgwr yn cael Tiwtor Personol ac yn cael cymorth tiwtoraidd ddwywaith yr wythnos. Mae staff yn gweithio'n agos gyda dysgwyr i annog a datblygu hyder, hunan-barch a sgiliau eraill sy'n eu helpu i ddod yn fwy annibynnol.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EFSN0062AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr